Hyfforddiant i Diwtoriaid Personol
Mae Tiwtora Personol yn elfen bwysig i sicrhau bod myfyrwyr sy’n newydd i’r Brifysgol yn cyfarwyddo â’u hastudiaethau a sefydlu pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw faterion personol, academaidd neu faterion eraill a allai effeithio ar eu profiad fel myfyrwyr.
Mae cwrs hyfforddi undydd “Tiwtora Personol” ar gael i staff sydd â chyfrifoldebau Tiwtora Personol, a gaiff ei hwyluso gan staff o’r adran Cymorth i Fyfyrwyr, Urdd y Myfyrwyr, y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a’r Gofrestrfa. Mae wedi’i gynllunio i ategu’r wybodaeth a geir yn y pecyn adnoddau hwn ac mae’n darparu hyfforddiant sgiliau sylfaenol ar gyfer Tiwtora Personol.
Mae’r cwrs yn trafod cwmpas rôl y tiwtor personol a’r disgwyliadau o’r rôl honno. Trafodir elfennau o rôl y tiwtor personol gan gynnwys ffiniau, cyfrinachedd, cyfeirio, cofnodi achosion ac adnoddau sydd ar gael i gefnogi tiwtoriaid personol yn eu rôl.
Dylai adrannau sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldeb am ddarparu cymorth personol i fyfyrwyr yn dilyn y cwrs hwn.
Mae’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau byr sy’n berthnasol i aelodau o staff sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr megis:
- Cyflwyniad i Gymorth i Fyfyrwyr: pa wasanaethau sydd ar gael?
- Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
- Byw gyda cholli clyw
- Pan fydd myfyriwr yn dymuno gadael y Brifysgol - beth i’w wneud
- Amlinelliad o Anawsterau Dysgu Penodol
- Rwyf i’n poeni am y myfyriwr hwn: beth i’w wneud
- Cyfrinachedd: beth sy’n rhaid talu sylw iddo wrth roi cymorth i fyfyriwr?
- Trosolwg o ddiffygion golwg ac effaith colli golwg
- Cwricwlwm cynhwysol neu ddysgu integredig: beth sydd mor bwysig?
- Cyflwyniad sylfaenol i Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
- Adolygiad cryno o ddeddfwriaeth, ei heffaith ar wasanaethau SAU a chyfrifoldebau cysylltiedig
- Beth i’w wneud pan fydd hi’n anodd helpu achosion trafferthus
- Fforwm i rannu ymarfer da - Anabledd
- Materion iechyd meddwl
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â staff.dev@aber.ac.uk neu ewch i’r wefan i archebu lle ar gwrs perthnasol.
Dolenni Allanol
Mae gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da mewn perthynas â thiwtora personol ar wefan yr Academi Addysg Uwch.
Mae adran o wefan y Centre for Recording Achievement wedi’i hanelu at gynorthwyo i hyfforddi’r tiwtoriaid personol hynny y mae disgwyl iddynt gynnig cyfleoedd cynllunio datblygiad personol (CDP) i’w myfyrwyr. Bwriedir i’r deunyddiau hyn fod o gymorth i ddatblygwyr a hyfforddwyr addysgol a staff mewn gweithdai, ond gallent fod yn ddefnyddiol hefyd fel deunyddiau unigol i staff sy’n ymgymryd â rôl tiwtor CDP.
Adnoddau
Gallai’r adnoddau canlynol fod yn ddefnyddiol i chi yn eich rôl fel tiwtor personol hefyd:
Llyfrau
Bullock, K., Wikeley, F. (2004) Whose Learning: The Role of the Personal Tutor? Maidenhead, Open University Press.
Neville, L. (2007) The personal tutor's handbook. Basingstoke, Palgrave.
Thomas, L., Hixenbaugh, P. (ed.) (2006) Personal tutoring in higher education. Stoke-on-Trent, Trentham. (ar gael i’w fenthyg o CDSAP)
Wheeler, S, Birtle, J. (1993) A handbook for personal tutors. Buckingham, Society for Research into Higher Education & Open University Press.
Erthyglau
Myers, J. (2008) Is personal tutoring sustainable? Comparing the trajectory of the personal tutor with that of the residential warden. Teaching in Higher Education, 13 (5), 607-611.
Owen, M. (2002) Sometimes You Feel You’re in Niche Time: The Personal Tutor System, a Case Study. Active Learning in Higher Education, 3 (1), 7 - 23.
Stephen, D., O'Connell, P., Hall, M. (2008) 'Going the extra mile', 'fire-fighting', or laissez-faire? Re-evaluating personal tutoring relationships within mass higher education. Teaching in Higher Education, 13 (4), 449-460 (12).
Wilcox, P., Winn, S., Fyvie Gauld, M. (2005) “It was nothing to do with the university, it was just the people”: the role of social support in the first-year experience of higher education. Studies in Higher Education, 30 (6), 707-722(16).