Hyfforddiant Mewnol
Mae cwrs hyfforddi undydd “Tiwtora Personol” ar gael i staff sydd â chyfrifoldebau Tiwtora Personol, a gaiff ei hwyluso gan staff o’r adran Cymorth i Fyfyrwyr, Urdd y Myfyrwyr, y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a’r Gofrestrfa. Mae wedi’i gynllunio i ategu’r wybodaeth a geir yn y pecyn adnoddau hwn ac mae’n darparu hyfforddiant sgiliau sylfaenol ar gyfer Tiwtora Personol. Dylai adrannau sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldeb am ddarparu cymorth personol i fyfyrwyr wedi dilyn y cwrs hwn.
Mae’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau byr sy’n berthnasol i aelodau o staff sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr megis:
- Cyflwyniad i Gymorth i Fyfyrwyr: pa wasanaethau sydd ar gael?
- Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
- Byw gyda cholli clyw
- Pan fydd myfyriwr yn dymuno gadael y Brifysgol - beth i’w wneud
- Amlinelliad o Anawsterau Dysgu Penodol
- Rwyf i’n poeni am y myfyriwr hwn: beth i’w wneud
- Cyfrinachedd: beth sy’n rhaid talu sylw iddo wrth roi cymorth i fyfyriwr?
- Trosolwg o ddiffygion golwg ac effaith colli golwg
- Cwricwlwm cynhwysol neu ddysgu integredig: beth sydd mor bwysig?
- Cyflwyniad sylfaenol i Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
- Adolygiad cryno o ddeddfwriaeth, ei heffaith ar wasanaethau SAU a chyfrifoldebau cysylltiedig
- Beth i’w wneud pan fydd hi’n anodd helpu achosion trafferthus
- Fforwm i rannu ymarfer da - Anabledd
- Materion iechyd meddwl
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â staff.dev@aber.ac.uk neu ewch i’r wefan i archebu lle ar gwrs perthnasol.