Cyfnod Addasu UCAS

Beth yw Cyfnod Addasu UCAS? Nawr mae gennych hawl i newid o’ch dewis cadarn o Brifysgol arall i Brifysgol Aberystwyth yn ystod y cyfnod Addasu UCAS os ydych yn curo’ch graddau angenrheidiol o ddiwrnod y canlyniadau ymlaen. Newyddion gwych, yn enwedig os oeddech wedi nodi eich dewis cadarn gan nad oeddech yn credu y byddech yn perfformio mor wych ag yr ydych wedi ei wneud.

Dyma pam y dylech newid eich dewis a dod i Brifysgol Aberystwyth:

  • Byddwch yn cael eich dysgu gan rai o’r darlithwyr gorau yn y wlad
  • Byddwch yn ymuno â’r Brifysgol sydd yn tyfu gyflymaf yn y wlad
  • Ein Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a’n Gworbau ni yw’r rhai gorau yn y wlad
  • Rydym yn gwarantu llety yn eich blwyddyn gyntaf

Er bod Cyfnod Addasu UCAS yn rhedeg o’r 16 Awst hyd yr 31 Awst, bydd angen i chi symud yn sydyn er mwyn sichrau eich lle drwy’r system Addasu UCAS. Unwaith y byddwch yn gymwys ar gyfer Addasu UCAS dim ond 5 diwrnod calendr sydd gennych i uwchraddio ar gyfer cwrs arall ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedwch wrthym nawr yr hoffech Uwchraddio drwy’n swyddfa UCAS Adjustment (sicrhewch eich bod yn cynnwys y cwrs mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch rhif UCAS yn eich ebost).

Neu ffoniwch ein Llinell Gymorth Cyfnod Addasu UCAS: 0800 121 4080