Pam Dewis Prifysgol Aberystwyth drwy system Glirio UCAS

Beth yw’r pethau pwysicaf y dylech eu hystyried wrth ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy systemau Clirio UCAS neu Addasu UCAS?

Dyma’r chwe prif reswm dros ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn ystod trefn Glirio UCAS 2012:

  • Rydym yn gweithio’n galed i’ch gwneud yn gyflogadwy
  • Rydym yn sicrhau llety i chi yn y brifysgol
  • Byddwch yn dysgu ac yn cael eich addysgu i safon uchel a hynny mewn adrannau sydd ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am eu safonau academaidd
  • Byddwch yn dod yn rhan o’r “Brifysgol Orau yn y Wlad ar gyfer Boddhad Myfyrwyr”
  • Cewch y costau byw isaf yn y Deyrnas Unedig
  • Byddwch yn astudio mewn prifysgol fodern ond traddodiadol sydd ag amgylcheddau dysgu gwych

Mae ein myfyrwyr presennol wrth eu bodd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Maent wedi ein graddio yn hynod uchel ar gyfer profiad myfyrwyr a boddhad myfyrwyr. Rydym hefyd wedi cael ein gosod yn y pedwerydd safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer “Addysgu a Dysgu” (Arolwg Times Higher Education) ond daliwch ati i ddarllen i gael gwybod PAM rydym mor uchel ar y rhestr...

Amgylchedd Unigryw

Does unman yn debyg i Aberystwyth. Cliciwch i gael gwybod beth sy’n ein gwneud yn unigryw.

Cyfleusterau Rhagorol

Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw cyfleusterau da. Yn Aberystwyth mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf ar y campws ac oddi arno.

Bwrsariaeth Clirio

Rydym yn falch o gael cynnig Bwrsariaeth Clirio i chi os penderfynwch ymuno â ni yn ystod y drefn Glirio.

Gwobrau ac Anrhydeddau Diweddar

Darllenwch am rai o’r gwobrau a’r anrhydeddau yr ydyn ni wedi’u hennill...

Safonau Academaidd a Chyflogadwyedd

Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru ac ers hynny mae wedi bod ar flaen y gad... darllenwch fwy.

Enw o safon fyd-eang

Mae holiaduron diweddar ac arolygon barn myfyrwyr yn ein gosod yn uchel iawn. Cewch wybod pam yma...

Barn y Myfyrwyr

Rydyn ni’n credu ein bod yn wych. Ond beth yw barn ein myfyrwyr? Cewch wybod yma...