Safonau Academaidd a Chyflogadwyedd Uchel

Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru. Roedd ei sylfaenwyr yn benderfynol y dylai Cymru gael Addysg Uwch ragorol, cystal ag unrhyw beth a geid mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae’r traddodiad hwnnw o sicrhau rhagoriaeth academaidd yn dal i’n hysgogi heddiw.

Ar y lefel hon, mae gofyn beirniadu safonau academaidd yn ôl pedwar maen prawf:

Safon y Dysgu

Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2009, dywedodd 89% o fyfyrwyr Aberystwyth fod yr addysgu ar eu cwrs yn dda neu’n well, gan osod Prifysgol Aberystwyth yn yr 22 safle allan o fwy na 200 o brifysgolion a arolygwyd yn y DU.

Safon yr Ymchwil

Mae angen i athrawon mewn prifysgol fod ar flaen y gad yn eu disgyblaeth, lle mae’r gwaith newydd yn digwydd. Byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion sydd yn arloesi yn eu hymchwil. Wrth i ni ysgrifennu, mae academyddion Aberystwyth yn arwain gwaith ymchwil mewn nifer o ddisgyblaethau. Edrychwch ar rai o’n Newyddion Ymchwil diweddar

Cyfradd Cwblhau

Cyfradd cwblhau prifysgol yw cyfran y myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd y maen nhw’n dechrau arni. Mae cyfraddau cwblhau yn bwysig am eu bod yn nodi a ydych yn debygol o fod yn llwyddiannus yn eich astudiaethau ai peidio. Cyfradd cwblhau Aberystwyth yw 87.5%, sy’n ei gosod yn y traean uchaf o blith prifysgolion y Deyrnas Unedig.

Cymorth i Ddysgwyr

Cymorth i Ddysgwyr, yn anad dim, sy’n golygu bod y gyfradd cwblhau gystal ag ydyw. Pen blaen y cymorth yw’r tiwtor sy’n dysgu’r cwrs ei hun - ac, fel yr ydych eisoes wedi gweld, mae barn ein myfyrwyr am eu hathrawon yn uchel iawn yn wir...

Eich Cyflogadwyedd

O’ch diwrnod cyntaf yn Aberystwyth hyd at eich diwrnod olaf, cewch fynediad strwythuredig at gyfleoedd datblygu sgiliau a chymhwysedd trwy eich cwricwlwm, a thrwy weithgareddau pwrpasol – a’r cyfan wedi’u cynllunio i gynyddu eich cyflogadwyedd cymaint â phosibl. Bydd yr adran nesaf yn amlinellu rhai o’n cyfleusterau rhagorol, darllenwch ymlaen...

Rhagor o Wybodaeth