Bwrsariaeth Clirio
Mae pawb yn gwybod fod Prifysgol yn gallu bod yn amser drud. Mae’n deg dweud fodd bynnag, o gymharu â threfi prifysgol eraill, fod Aberystwyth yn lle eithaf rhad i fyw ynddo yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr.
Er mwyn cefnogi’r ffaith hon ymhellach, rydym yn falch o gynnig Bwrsariaeth Clirio i ymgeiswyr nad oeddent mewn sefyllfa i wneud cais i ni cyn y dyddiad cau 30 Mehefin ac felly yn bwriadu gwneud cais i Aberystwyth trwy Glirio.
Y Fwrsariaeth
Os penderfynwch ymuno â ni yn ystod clirio, gallech fod â hawl i hyd at £450 o ostyngiadau a buddion. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gostyngiad ar y ffi Llety (os byddwch yn byw mewn eiddo a reolir gan y Brifysgol)
- Arian ychwanegol ar eich Cerdyn Aber (ar gyfer prynu bwyd ym mannau gwerthu’r Brifysgol yn ogystal ag ar gyfer argraffu a llungopïo)
- Tocyn Bws Myfyrwyr
- Aelodaeth Clwb Sborti Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
Os hoffech ragor o wybodaeth am y Fwrsariaeth Clirio, neu os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch Clirio, yna mae croeso cynnes iawn i chi ffonio ein Llinell Clirio Arbennig ar: 01970 62 20 00