Cyfleusterau Rhagorol
Bywyd Myfyriwr ar y campws
Yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd yn y dref, mae campws y Brifysgol yn dwyn ynghyd gyfleusterau academaidd o’r radd flaenaf, llety rhagorol i fyfyrwyr, Canolfan y Celfyddydau sydd wedi ennill gwobrau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyfleusterau chwaraeon gwych dan do ac yn yr awyr agored, ac adeilad Undeb y Myfyrwyr: a’r cyfan o fewn pellter cerdded hawdd i’w gilydd. Mae’r campws ar safle hardd ar ochr bryn gyda golygfeydd gwych ar draws y dref at Fôr Ceredigion a thu hwnt.
Profiad cytbwys
Mae yna gydbwysedd gwych ym mywyd y myfyrwyr yma: cydbwysedd rhwng ymarfer corff a chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored; cydbwysedd rhwng gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau artistig; cyfran weddol gyfartal o fyfyrwyr gwryw a benyw; ac, yn hollbwysig, cydbwysedd rhwng astudio a hamddena.
Nid yn unig y mae ein myfyrwyr yn hapus oherwydd eu bod yn cael hwyl a hanner mewn tref fendigedig: maen nhw hefyd yn hapus oherwydd bod 93% ohonynt yn gorffen eu gradd yn llwyddiannus. Mae cadw cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden wrth wraidd y profiad yn Aberystwyth: ac mae’r holl ystadegau yn dangos bod y cyfan yn cynnig profiad iach a bodlon i fyfyrwyr.