Ein Hamgylchedd Unigryw

Does unman yn debyg i Aberystwyth: does dim Prifysgol arall sy’n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hir; lleoliad eithriadol o hardd wrth droed y mynyddoedd ac wrth ymyl y môr; canolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol; campws sydd yn ymyl un o bum llyfrgell hawlfraint Prydain yn ogystal â Chanolfan Celfyddydau sydd â statws Beacon; a phrifysgol sy’n gadwrfa unigryw i dreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru…

Aberystwyth yw’r dref myfyrwyr fwyaf poblogaidd yn y wlad oherwydd dyna yn union beth yw hi: tref myfyrwyr.

Mae yma glybiau da, nifer anhygoel o dafarndai, bwytai amrywiol, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth, theatrau, amgueddfeydd ac orielau: a dyna sôn yn unig am yr hwyl y gallwch ei gael dan do! Mae’r môr, y traethau a’r mynyddoedd yn cynnig cyfleoedd gwych i hamddena ac ymlacio.

Mae hefyd yn lleoliad diogel iawn:

Yn ôl Ystadegau Troseddu’r Deyrnas Unedig, yng Ngheredigion y mae’r gyfradd isaf o droseddau fesul pen yng Nghymru a Lloegr.

Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod am ein safonau academaidd uchel a beth rydym yn ei wneud i sicrhau eich bod yn gyflogadwy ar ddiwedd eich gradd.

Rhagor o Wybodaeth