Gwybodaeth i Israddedigion
Aberystwyth a’r Cyffiniau
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli mewn bro ddigymar ar lannau Bae Ceredigion. Dyfarnwyd baner las yr Undeb Ewropeaidd yn gyson i’r traethau am eu glendid, ac mae tirwedd a bywyd gwyllt yr ardal leol yn anhygoel. Ceir sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gerllaw’r Brifysgol.
Gwelir barcutiaid coch yn hedfan uwch y campysau yn rheolaidd, ac mae dolffiniaid i’w gweld yn y bae. Yn ogystal â golygfeydd gwych, mae cefn gwlad Ceredigion yn ddelfrydol ar gyfer nifer o weithgareddau hamdden ac yn lle perffaith i ymlacio yn yr awyr agored. Fel cyrchfan o bwys i dwristiaid, mae gan y dref nifer helaeth o fwytai a digonedd o weithgareddau a chyfleusterau cyffredinol.