Anrhydeddau a Proffiliau Myfyrwyr

Anrhydeddau a Llwyddiannau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn ei hanes o lwyddiannau academaidd niferus. Mae rhestr o ffynonellau annibynnol yn cadarnhau’r safonau hyn, sy’n brawf o ansawdd yr addysg a bywyd myfyrwyr y mae Prifysgol Aberystwyth yn eu darparu.

Ond nid addysg ac ymchwil o safon fyd-eang yw’r unig bethau sydd ar gael i chi yma: mae ansawdd bywyd ein myfyrwyr hefyd wedi ennill gwobrau. Ewch i gael cip ar ein hanrhydeddau a’n llwyddiannau...

Proffiliau Myfyrwyr

Yn yr adran proffiliau myfyrwyr gallwch chi ddarllen beth mae ein myfyrwyr presennol wir yn meddwl a beth maen nhw wir yn ei hoffi am astudio yn Aberystwyth. Os ydych chi am wybod y gwir amdanon ni, gwrandewch ar beth mae’r myfyrwyr yn ei ddweud.