Aberystwyth yn dal i Arwain am Fodlonrwydd Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth sy’n arwain y maes o ran bodlonrwydd myfyrwyr am y chweched flwyddyn.
Yng nghanlyniadau 2011 Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr rhoddwyd sgor o 4.3 allan o 5 i’r Brifysgol am fodlonrwydd myfyrwyr, ac am y chweched flwyddyn o’r bron, yr uchaf yng Nghymru.
Mae’r canlyniad gwych hwn yn atgyfnerthu ymhellach ein dyrchafiad yn ddiweddar i fyny tablau cynghrair y Prifysgolion, a welodd Aberystwyth yn symud i fyny 22 lle yn y Guardian University Guide, chwe lle yn y Times Higher Education Good University Guide a saith lle yn nhabl cynghrair yr Independent am fodlonrwydd myfyrwyr. I goroni’r cwbl a chadarnhau mai ein myfyrwyr ni yn Aber yw’r mwyaf bodlon eu byd, pleidleisiwyd ‘mae’n debyg mai dyma’r lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr’ yn yr International Student Barometer am 2009.
Cymerodd 252,000 o fyfyrwyr ran yn yr arolwg eleni, ac fe bleidleison nhw fod bodlonrwydd cyffredinol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dal i fod yn uchel iawn, sef 92% - cynnydd o 2% ar 2009 a 10% yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.