Aberystwyth yw’r dref/ddinas Prifysgol orau yng Nghymru
Yn ôl pleidlais MSN Travel Aberystwyth yw’r Dref neu Ddinas Prifysgol orau yng Nghymru, a’r wythfed gorau yn y DU.
Maen nhw’n cydnabod y ffaith fod dewis prifysgol yn fwy na dewis addysg dda yn unig, “mae’n golygu dewis cartref i ffwrdd o gartref.”
Mae ein safle uchel yn seiliedig ar brifysgolion sy’n cynnig y pecyn cyfan i fyfyrwyr: “golygfeydd, seiniau a gweithgareddau gwych, gwerth da, y bywyd nos gorau ynghyd â’r awyrgylch yn gyffredinol.”
Ac nid MSN Travel yw’r unig rai sydd wrth eu bodd ag Aberystwyth; mae ein myfyrwyr hefyd yn caru’r awyrgylch unigryw sydd i’w gael yma. Ai’r golygfeydd syfrdanol a’r prydferthwch naturiol sydd i gyfrif am hyn? Ynteu natur gyfeillgar y bobl? Darllenwch beth maen nhw’n meddwl sy’n gwneud y lle mor arbennig.
Aberystwyth ar frig y bleidlais am y dref orau i fyfyrwyr yn y DU
Yn ddiweddar daeth Aberystwyth i’r brig yn y bleidlais am y dref orau i fyfyrwyr yn y DU o ran ysbryd cymunedol a chyfleusterau yn ôl casgliadau arolwg a gyhoeddwyd ar accommodationforstudents.com.
Mae’r casgliadau’n seiliedig ar dros 36,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr o 56 o drefi prifysgol ar draws y DU. Gofynnwyd i fyfyrwyr raddio lleoliad eu prifysgolion (allan o 10) ar draws pum maen prawf:
- Mynd allan (tai bwyta, tafarndai a chlybiau)
- Siopau (archfarchnadoedd, siopau bach, siopau llyfrau a siopau fideo)
- Cysylltiadau trafnidiaeth (bysiau, trenau a threnau tanddaearol)
- Cymuned (diogelwch, poblogaeth myfyrwyr ac amgylchoedd)
- Cyfleusterau (campfeydd, llyfrgelloedd a pharciau)
O’r pum categori, daeth Aberystwyth i’r brig ar gyfer cymuned a chyfleusterau.
Lawrlwytho
Lawrlwytho Aberystwyth University Social Life eBook (Eng Only)
Ymweld â ni
Pam na ddewch chi i weld pam fod y myfyrwyr sy’n dod yma wrth eu bodd ag Aberystwyth? Mae tri Diwrnod Agored bob blwyddyn: Edrychwch i weld pryd mae’r nesaf...