Prifysgol Aberystwyth yn dringo’r Tablau Cynghrair
Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo tablau cynghrair y Prifysgolion cenedlaethol uchaf eu parch yn 2011. Mae’r Brifysgol wedi codi tri safle i rif 40 yn The Times Good University Guide 2010, saith safle yn The Independent Complete University Guide 2010, ac, yn rhyfeddol, 20 safle (dros ddwy flynedd) yn The Guardian University Guide. Mae’r tri thabl yn dangos bod y Brifysgol yn cryfhau ei gafael ar yr ail safle yng Nghymru.
Mae’r canlyniadau’n cadarnhau proffil cynyddol Aberystwyth ymhob agwedd ar lwyddiant y Brifysgol, gyda sylfaen arbennig o gryf o ran ei phoblogrwydd ymysg ei myfyrwyr, lle mae’r Brifysgol yn parhau i fod y gorau ym Mhrydain o ran boddhad myfyrwyr. Mae tref Aberystwyth hefyd yn ennill yr ail safle yn arolwg Tref Myfyrwyr Mwyaf Poblogaidd yn y Deyrnas Unedig.
Dewch i’n gweld
Beth am ddod i weld pam fod myfyrwyr mor hoff o Aberystwyth? Cynhelir ein Diwrnodau Agored deirgwaith y flwyddyn: Cliciwch yma i weld dyddiad y diwrnod agored nesaf...