Y Brifysgol sy’n cael ei ‘hoffi’ fwyaf ym Mhrydain

Ar 31ain o Fawrth 2011 llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i fod y Brifysgol sy’n cael ei ‘hoffi’ fwyaf ar Facebook.

Y gystadleuaeth, a gaiff ei galw’n, ‘University Face Off’, yw’r cyntaf o’i math i ddarganfod y brifysgol sy’n cael ei chefnogi fwyaf ar facebook yn y Deyrnas Unedig. Gyda 130 o Brifysgolion Prydain a dros 11,000 o bobl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, gofynnwyd i bleidleiswyr i hoffi, i adael sylw, i drydar, neu i enwi eu hunain mewn ffotograffau ar dudalen University Face Off, er mwyn derbyn pwyntiau am y Brifysgol o’u dewis.

Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i gyrraedd y brig gyda’r swm anferth o 3420 o bwyntiau, gan guro’r Brifysgol Agored a oedd yn yr ail safle, o 1487 o bwyntiau. Yr oedd poblogrwydd Aberystwyth o’i gymharu â Phrifysgolion eraill Cymru yn amlwg. Curwyd Prifysgol Bangor (5ed safle) o 2664 o bwyntiau, a Phrifysgol Abertawe (8fed safle) o 2855 o bwyntiau.

Yr oedd Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Aled Jones, yn falch iawn o weld fod enw da y Brifysgol am foddhad myfyrwyr a chyfeillgarwch o fewn y Brifysgol, yn cael eu pwysleisio mewn cystadleuaeth genedlaethol fel hon:

“Myfyrwyr yw ein blaenoriaeth ni bob amser, ac mae’r Brifysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau fod ganddynt yr adnoddau a’r ddarpariaeth angenrheidol er mwyn iddynt lwyddo yn y maes o’u dewis hwy. Mae’r Brifysgol yn sicrhau fod y gwasanaethau yma yn cael eu darparu mewn ffordd uniongyrchol a chyfeillgar bob amser.’

Ymunwch â ffrindiau yma

Er mwyn bod yn rhan o’r gymuned hon sydd wedi ennill gwobr ewch i’n tudalennau cymdeithasu ar lein ..