Rhagoriaeth sy’n Arwain y Byd yn ein Hadrannau

Dangosodd canlyniadau’r Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf fod 85% o ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol neu well, gydag ymchwil “yn Arwain y Byd” mewn 15 o’r 16 maes pwnc. RAE2008

Mae hynny’n golygu fod Prifysgol Aberystwyth yn ail yng Nghymru ac yn rhif 42 allan o 120 drwy’r DU gyfan o ran ansawdd ei hymchwil yn ôl Times Higher Education a’r Independent.

Roedd yr RAE yn gosod ymchwil mewn pum graddfa wahanol:

  • 4* - Yn Arwain y Byd
  • 3* - Rhagorol yn Rhyngwladol
  • 2* - Yn cael ei Gydnabod yn Rhyngwladol
  • 1* - Yn cael ei Gydnabod yn Genedlaethol
  • 0 - Di-ddosbarth

Roedd y canfyddiadau’n dangos fod yn agos i hanner yr ymchwil a wneir yn Aberystwyth yn Arwain y Byd neu’n Rhagorol yn Rhyngwladol a bod 97.4% o ymchwilwyr yn gweithio mewn disgyblaethau sy’n ymgymryd ag ymchwil sy’n Arwain y Byd.

Isod ceir uchafbwyntiau ein canlyniadau RAE2008:

Adran % Sgor Ymchwil RAE2008  Safle RAE2008 
Gwleidyddiaeth Ryngwladol  65% 4* neu 3* & 25% 2* 3ydd yn y DU
Gwyddorau Cyfrifiadurol 70% 4* neu 3* & 30% 2* 1af yng Nghymru

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

65% 4* neu 3* & 30% 2* 11eg yn y DU 
Y Gymraeg  65% 4* neu 3* & 25% 2* 4ydd yn y DU
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu 60% 4* neu 3* & 20% 2* 15fed yn y DU 

Mae cyflawni sgoriau Proffil Ansawdd mor wych ac ar yr un pryd dod i’r brig mewn pleidlais am y Brifysgol ORAU yn y Wlad ar gyfer profiad myfyrwyr yn tystio i’r cydbwysedd rhagorol y mae ein myfyrwyr yn gallu ei brofi yn Aberystwyth; nid yn unig maen nhw’n cael eu dysgu gan ymchwilwyr a darlithwyr sy’n Arwain y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol, ond maen nhw hefyd yn mwynhau’r profiad myfyrwyr gorau. Rydyn ni’n gwybod fod hwn yn honiad beiddgar, felly ewch i weld beth sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud…