Profiad Myfyrwyr yn gosod Aberystwyth ar y brig yng Nghymru

Best student experience 2011 award

Am y bedwaredd fiwyddyn yn olynol, Prifysgol Aberystwyth sydd yn cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education a gyhoeddwyd heddiw 26 Ebrill 2012.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn 8ed yn y Deyrnas Gyfunol allan o’r 113 prifysgol sydd wedi eu cynnwys.

O ganlyniad i’n perfformiad anhygoel, cafodd Prifysgol Aberystwyth ei llongyfarch yn Ty Cyffredin am y profiad gwych yr ydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr. Dyma sut y cawsom ein harolygu...

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan YouthSight, arbenigwyr mewn ymchwil i farchnad myfyrwyr, a ofynnodd gwestiynau pen agored i 14,000 o israddedigion am y ffyrdd y mae eu sefydliad wedi cyfrannu yn gadarnhaol ac yn negyddol i’w cyfnod fel myfyrwyr.

Cafodd y canlyniadau eu defnyddio i lunio rhestr o 21 ffactor, gan gynnwys:

  • Parodrwydd aelodau staff i gynorthwyo
  • Llwyth gwaith
  • Llety
  • Cysylltiadau da gyda diwydiant
  • Dysgu mewn grwpiau bychain

Nodwyd pwysigrwydd pob ffactor yn unol â’r pwyslais a roddwyd iddynt gan y myfyrwyr, drwy nodi’r gydberthynas gyda chryfder eu parodrwydd i argymell eu prifysgol i ffrind.

Mae bod yn Brifysgol orau'r wlad o safbwynt profiad myfyrwyr a chael ein henwi fel Prifysgol orau'r wlad o ran boddhad myfyrwyr yn adlewyrchiad o’r bywyd myfyriwr heb ei ail sy’n bodoli ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darganfyddwch fwy am y profiad myfyriwr gwych y gallwch ei ddisgwyl yma ym Mhrifysgol Aberystwyth...

Gwylio...

Ymddiheuriadau Mae copi Cymraeg o’r fideo yn cael ei baratoi

No Javascript

warningPlease turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.