Prifysgol Aberystwyth yw’r ORAU yn y wlad am Fodlonrwydd y Myfyrwyr

Am yr 4edd flwyddyn yn olynol, Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol orau yn y wlad am fodlonrwydd y myfyrwyr yn ôl The Times Good University Guide 2011. Prifysgol Aberystwyth yw’r ORAU yn y wlad am Fodlonrwydd y Myfyrwyr

Gyda chyfradd o 81% am fodlonrwydd y myfyrwyr, mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith 13 yn unig o brifysgolion y Deyrnas Unedig a gafodd gyfradd o 80% neu fwy, sy’n amlygu’r rhagoriaeth a geir yn Aberystwyth o ran profiad i fyfyrwyr.

The Times Good University Guide yw’r canllaw sydd fwyaf ei barch a’i awdurdod i brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n arf hanfodol a chynhwysfawr i fyfyrwyr a rhieni y DU a thramor. Mae’n graddio 113 o brifysgolion y Deyrnas Unedig yn ôl 8 o feini prawf; gan gynnwys bodlonrwydd y myfyrwyr, rhagolygon i raddedigion, ansawdd yr ymchwil a chanlyniadau gradd.

I gefnogi hyn, mae canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol hefyd yn gosod Prifysgol Aberystwyth fel y Brifysgol orau yn y Wlad am foddhad myfyrwyr am y bumed mlynedd yn olynol. Cwblhaodd 223,363 o fyfyrwyr yr Arolwg eleni, graddfa ymateb o 62%.

Nid y Brifysgol yn unig sy’n cynnig y bywyd myfyrwyr gorau i’n myfyrwyr: mae tref Aberystwyth ei hun hefyd wedi ennill gwobrau pwysig. Mae’r cyfan hyn yn cynnig profiad diguro i’r myfyriwr.

Cewch brofi hyn i gyd drosoch eich hun trwy ddod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Aberystwyth. Pam fyddech chi’n cyfaddawdu eich bodlonrwydd fel myfyriwr trwy fynd i rywle arall?