Prifysgol Aberystwyth yw un o’r Prifysgolion gorau am ddysgu ac addysgu
Yn ogystal â bod y Brifysgol Orau yn y wlad am fodlonrwydd y myfyrwyr ac am brofiad y myfyrwyr, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei dyfarnu’n un o’r prifysgolion gorau yng ngwledydd Prydain am ddysgu ac addysgu.
Mae dod yn bedwerydd yn Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried bod dros 11,000 o israddedigion amser-llawn mewn 104 o brifysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg Panel Barn.
Ymhlith y 10 Uchaf am Adnoddau
Roedd yr arolwg yn pwysleisio safon uchel dysgu ac addysgu staff Prifysgol Aberystwyth ond roedd hefyd yn cydnabod buddsoddiad parhaus y Brifysgol mewn adnoddau o’r radd flaenaf trwy roi Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 Uchaf am adnoddau academaidd.
Mae’r cyfuniad hwn o safonau uchel digyffelyb am Brofiad y Myfyrwyr, Adnoddau prifysgol o’r radd flaenaf a bod yn un o’r prifysgolion gorau am ddysgu ac addysgu yn atgyfnerthu’r cydbwysedd perffaith y mae myfyrwyr yn ei gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.