Un o’r Prifysgolion gorau mewn Arolwg Byd-eang

Prifysgol Aberystwyth yw un o’r prifysgolion gorau yn y byd am Fodlonrwydd y Myfyrwyr, yn ôl arolwg byd-eang...

 

Y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yw’r arolwg blynyddol mwyaf o’i fath yn y byd ac mae wedi casglu gwybodaeth gan dros 600,000 o fyfyrwyr, mewn dros 500 o sefydliadau ar bum cyfandir ers 2005. Darganfu, yn 2011, mai Prifysgol Aberystwyth a ddaeth i’r brig o ran y nodweddion hanfodol “lle da i fyw” a “bodlonrwydd cyffredinol y myfyrwyr”.

Mae’r cyflawniad anhygoel hwn yn dystiolaeth bellach o’r profiad prifysgol unigryw a geir yn Aberystwyth: cewch eich dysgu gan rai o ddarlithwyr gorau’r byd mewn adnoddau dysgu ardderchog, ond hefyd cewch brofi’r bywyd arbennig sydd i fyfyrwyr yma.

Cewch brofiad o fodlonrwydd ein myfyrwyr ar un o Ddiwrnodau Agored y Brifysgol.