Llety prifysgol

Yr ydym yn sicrhau lle yn ein llety i bob un myfyriwr blwyddyn gyntaf

A ydych chi’n credu fod £24 miliwn yn llawer o arian? Dyna faint yr ydym wedi ei wario ar ein llety yn y Brifysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr ydym eisiau i chi fod yn hapus yn byw i ffwrdd o adref, dyna pam yr ydym yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn hollol fodlon gyda’n darpariaeth.

Mae hyn yn rhywbeth mawr i’w honni yn dyw e? Ond, dylech weld beth yr ydym yn ei wneud i sicrhau eich bod chi’n fodlon...

AberCRIBS - Pentre Jane Morgan

YMDDIHEURIADAU Mae copi Cymraeg o’r fideo yn
cael ei baratoi

Copi safon uchel Geiriau'r Fideo

Ond cyn i ni ddangos ein llety i chi yn fwy manwl, gwyliwch raglen AberCRIBS a darganfyddwch y profiad arbennig a gewch chi gyda ni.

Nodweddion ein Llety yn y Brifysgol

  • Amrywiaeth llety – Mae gennym lety i ateb eich anghenion i gyd.
  • Awyrgylch ddiogel – Mae’r ffigurau diweddaraf ar Drosedd ym Mhrydain yn dangos mai ni sydd â’r campws prifysgol mwyaf diogel ym Mhrydain. Os nad yw hynny’n ddigon, mae tîm diogelwch ar ddyletswydd 24 awr y dydd sy’n caniatâu i chi gysgu’n dawel!
  • Naws ‘agos atoch chi’ – Mae’r teimlad o gymuned sydd i’w ganfod yn y brifysgol hefyd ar gael o fewn ein llety. Mae hyn yn gwneud ymgartrefu i ffwrdd o adref yn llawer haws.
  • Staff cyfeillagr – Mae hyn bob amser yn fonws, yn enwedig os oes gennych broblem. Mae ein staff llety cefnogol ar gael 24 awr bob dydd i’ch cynorthwyo.
  • Digon o lefydd parcio diogel a llefydd i gadw eich beic - Yn ogystal â chanfod lle parcio, mae pob un o’r meysydd parcio a’r llefydd i gadw beiciau yn cael eu gwylio’n ofalus gan ein staff diogelwch i sicrhau bod eich cerbyd yn ddiogel.
  • Wedi eu hadnewyddu yn ddiweddar – Mae ein llety yn llawn adnoddau modern, offer defnyddiol, yn gynnes, ac yn gyfforddus. Gwnaiff hyn yn siwr bod eich amser i ffwrdd o adref dipyn yn haws.
  • Mynediad i’r we am ddim – Mae gan bob ystafell sy’n rhan o lety’r brifysgol fynediad cyflym i’r we fyd eang.
  • Eich ffioedd llety wedi eu cynnwys – Yn annhebyg i rai prifysgolion, y pris a welwch yw’r pris a dalwch. Ni fyddwn yn gofyn i chi dalu am ddim byd ychwanegol.

Wrth fuddsoddi £24m mewn neuaddau preswyl newydd yn y blynyddoedd diweddar, gallwn sicrhau lle yn llety'r Brifysgol i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn cymunedau deniadol a chymdogol sy'n parchu'r amgylchedd.

Llety’r Brifysgol

Yr ydych nawr yn ymwybodol o’r nodweddion sydd i fyw mewn llety prifysgol. Gallwch ddilyn y dolenni isod i edrych ar y neuaddau preswyl amrywiol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac i weld y rheswm pam ein bod ar frig y rhestr yn y Deyrnas Unedig o “Ba mor fodlon mae myfyrwyr.”

 Llety Arlwyo

Am fwy o wybodaeth ynglyn a'n Llety ardderchog, ewch i brif dudalen y Swyddfa Llety.