Ysgoloriaeth CPD Tref Aberystwyth

Llun awyr o glwb pêl droed Aberystwyth

£4,000 yn y flwyddyn gyntaf, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

I gynnig Ysgoloriaeth i bêl-droedwyr dawnus (gwrywaidd neu benywaidd) a fydd yn chwarae i garfan tîm cyntaf y dref.

Ymhlith y manteision eraill mae aelodaeth Blatinwm o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, cyfleoedd datblygu hyfforddi pêl-droed, yswiriant meddygol, gwasanaeth ffisiotherapi, cit ar gyfer gemau ac ymarfer.

Sut mae gwneud cais?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael profiad o chwarae ar lefel sy’n cyfateb i Uwch Gynghrair Cymru.

Mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r Clwb i drafod a ydych yn gymwys: abertownfc@live.co.uk a gallwch Wneud Cais Ar-lein erbyn 15 Gorffennaf 2024.

Mae'r ysgoloriaeth hon bellach wedi cau ar gyfer mynediad 2023.

Telerau ac Amodau.