Manylion llawn am Ysgoloriaethau unigol

Noder nad oes angen ichi wneud cais am Ysgoloriaeth benodol – os ydych yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth yr Ysgoloriaethau, bydd y wobr gymwys yn cael ei dyfarnu ichi’n awtomatig. Dyma'r manylion llawn am yr Ysgoloriaethau unigol sydd gennym i’w cynnig, yn cynnwys manylion am y cymwynaswyr a'r telerau ac amodau sydd ynghlwm i bob gwobr:

 

Ysgoloriaethau Evan Morgan

£1,000 yf

Yn unol ag Ewyllys y diweddar Mr Evan Morgan o Lerpwl, fe sefydlwyd ymddiriedolaeth i ddarparu ysgoloriaethau mynediad i Brifysgol Aberystwyth. Ysgoloriaethau am dair blynedd, fel arfer. Amodau’r Gwobrwyo:

(a) Bydd y rhai sydd ar dir i gystadlu am ysgoloriaethau yn bobl ifainc a aned yng Nghymru neu sydd fel arfer yn byw yno (neu y ganed un neu’r ddau o’u rhieni yno), ac a fu’n ddisgyblion mewn ysgol uwchradd yng
Nghymru am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd.

(b) Rhaid bod gan bob ymgeisydd wybodaeth ddigonol o’r iaith Gymraeg a’r Saesneg ynghyd â Mathemateg neu’r Gwyddorau Naturiol i argyhoeddi Senedd y Brifysgol bod yr ymgeisydd yn berson cymwys ac addas i
fynd ymlaen i gwrs yn y Brifysgol ynghyd â rhagolygon rhesymol o’i gwblhau’n foddhaol.

(c) Mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd neu Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu ryw gymhwyster cyfatebol ym mhob un o’r pynciau priodol. Ar gyfer yr Ysgoloriaethau hyn fe
ystyrir llwyddiant TGAU yn y Gymraeg (Iaith Gyntaf ) neu Lenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf) neu’r Gymraeg (Ail Iaith: estynedig) yn gymhwyster cyfatebol yn y Gymraeg ac fe dderbynnir Cymraeg Ail Iaith sylfaenol hefyd yn gymhwyster cyfatebol.

Ysgoloriaethau Agored

(a) Ysgoloriaethau Agored – £1,000 yf

Gellir dal yr Ysgoloriaethau am gyfnod arferol y cwrs, ac nid oes amodau preswyl nac amodau eraill ynghlwm wrthynt. Mae cyflwyno’r gwobrau hyn yn bosibl trwy haelioni’r rhoddwyr canlynol (rhoddir dyddiad y rhodd mewn cromfachau): Pwyllgor Eisteddfod yr Wyddgrug i gydnabod gwasanaeth Mr Andrew Jones Brereton i’r Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1873; Teithwyr Masnachol Gogledd a De Cymru (1875); Mr W Pritchard, Llanrwst (1885); Mr Peter Ellis Eyton, y Rhyl (1887); Mr R H Richards, Casnewydd, Mynwy (1889); Ysgoloriaethau Mrs Clarke (1890); Mr David Charles Keeling, Blundellsands (1892); Mrs Elizabeth Davies, Brynteifi (1895); Mrs Elizabeth Davies ac eraill er cof am gysylltiad agos Mr David Davies Llandinam â’r Coleg (1901); Ysgoloriaeth Goffa Mr A C Humphreys-Owen (1907); Yr Anrhydeddus Lewis Thomas, Ipswich, Queensland, Awstralia (1909); Mr Thomas Davies, Bootle (1911); Mr Joseph Thomas (1911); Syr Alfred L Jones (1914); Mr T D Jenkins, Aberystwyth, er cof am Mr Edward Jones (1920); Miss N D Jenkins, Aberystwyth, er cof am Yr Athro David Jenkins (1921); Mr E Davies Bryan a Dr J Davies Bryan er cof am eu brawd Mr Robert Bryan (1922); David Morgan James, Caterham, trwy ewyllys Miss Elizabeth Ann Thomas (1922); Miss S Rowland er cof am Cranogwen (1924); Richard Davies, Ysgoloriaeth Mynyddog (1926); Y Fonesig Gladstone o Benarlâg er cof am gysylltiad agos ei thad â’r Coleg (1934); Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth (1937); Miss Elizabeth Phillips Hughes, y Barri (1938); Mr John Hughes (1938); Dr John Davies (1939); Mrs J D Evans er cof am Mr J D Evans (1940); Mr Thomas Roberts, Portland, Oregon, UDA (1945); Y Parch Herbert Morgan (1946); Ysgoloriaethau er cof am y Fonesig Gladstone o Benarlâg (1948); Richard ac Anne Roberts, Ysgoloriaethau Aberdyfi (1948); Elizabeth Annie Davies (1949); Annie Elizabeth Lewis (1953); Miss E C Lewis, Pennal, Machynlleth - Ysgoloriaeth Thomas Lewis (1953); Ysgoloriaeth Miss S A Davies (1959); Miss Ceinwen Griffith, er cof am Mr Robert Arthur Griffith (a fu ar un adeg yn ynad cyflogedig ac yn gyn-fyfyriwr) (1966); Mr John Henry Thomas, er cof am y Parch Dr David Thomas.

(b) Ysgoloriaeth Edward Hamer – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1993 dan gymynrodd a wnaed i’r Brifysgol gan Mr Edward Hamer, Aberystwyth. Fe’i dyfarnwyd am y tro cyntaf ym 1994 ac ar ôl hynny bydd ar gael i’w dyfarnu unwaith bob tair blynedd yn unig.

(c) Ysgoloriaeth Elizabeth Richards – £1,000 pa

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1992 dan gymynrodd a wnaed i’r Brifysgol gan Miss Elizabeth Richards, Aberystwyth. Fe’i dyfernir fel arfer bob tair blynedd ac fe’i dyfarnwyd ddiwethaf yn 2013.

(ch) Ysgoloriaeth The Hudson-Williams – £1,000 yf

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Hudson-Williams ym 1995 er cof am Mr Alun Hudson-Williams, gynt yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Clasuron. Dyfernir Ysgoloriaeth Hudson-Williams i ymgeiswyr am radd yng Nghyfadran y Celfyddydau. Dyfernir yr Ysgoloriaeth bob pedair blynedd, i’w dal am dair blynedd fel arfer.

(d) Ysgoloriaethau John Hughes – £1,000 yf

Tair Ysgoloriaeth, un wobr i’w dyfarnu bob blwyddyn, a sefydlwyd ym 1938 gan y ddiweddar Miss Elizabeth Phillips Hughes, y Barri.

Ysgoloriaethau Mynediad Cyfyngedig

(a) Ysgoloriaeth Sir Benfro – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1994, trwy rodd gan Mr Colin Evans, OBE o Hwlffordd, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, a Swyddog Cyswllt Ysgolion o 1989 hyd 1994. Fe ddyfernir yr Ysgoloriaeth ar sail gwaith boddhaol yn Arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad, i ymgeiswyr sy’n byw yn Sir Benfro. Dylai ymgeiswyr fod wedi mynychu naill ai (a) ysgol neu goleg yn Sir Benfro, neu (b) ysgol/goleg yn Aberteifi neu Hendy-gwyn ar Daf, am o leiaf dair blynedd rhwng 11 a 18 oed.

(b) Ysgoloriaeth Bryn Terfel – £1,000 yf

Ym mis Ionawr 1998, rhoddwyd cyngerdd gan Bryn Terfel yn rhan o ddathliadau 125 Prifysgol Cymru Aberystwyth. Trwy ei haelioni, sefydlwyd yr Ysgoloriaeth hon gyda’r elw o’r cyngerdd.

  1. Dyfernir yr Ysgoloriaeth ar sail gwaith yn Arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad, ac yn unol â Rheoliadau’r Sefydliad ar ddyfarnu Ysgoloriaeth Mynediad.
  2. Bydd yr Ysgoloriaeth yn agored i ymgeiswyr sydd wedi eu geni yng Nghymru, sydd ar dir i’w derbyn yn fyfyrwyr hŷn, ac sy’n bwriadu astudio am radd yng Nghyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth.
  3. Bydd yr Ysgoloriaeth ar gael bob pedair blynedd.
  4. Bydd yr Ysgoloriaeth i’w dal am dair blynedd fel arfer.

(c) Ysgoloriaeth Evan Bolle-Jones – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1997, trwy rodd gan Dr Evan Bolle-Jones, cyn-fyfyriwr yn y Coleg, BSc Cemeg a Llysieueg, 1945, MSc, 1947. Dyfernir yr Ysgoloriaeth yn ôl perfformiad yn Arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad ac yn unol â Rheoliadau’r Sefydliad ynglŷn â phennu Ysgoloriaethau Mynediad. Bydd yr Ysgoloriaeth yn agored i ymgeiswyr sy’n bwriadu astudio am gynllun gradd yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Bydd yr Ysgoloriaeth ar gael bob pedair blynedd, i’w dal am dair blynedd fel arfer.

(ch) Ysgoloriaethau Dewi ac Annie Williams – £1,000 yf

Ysgoloriaethau a sefydlwyd ym 1996 o gymynrodd gan y ddiweddar Mrs Annie Llewellyn Williams.  Bydd un wobr yn cael ei rhoi i ymgeisydd sy’n bwriadu astudio am radd anrhydedd Sengl neu Gyfun mewn Daearyddiaeth; rhoddir y llall i ymgeisydd sy’n bwriadu astudio am radd anrhydedd Sengl neu Gyfun yn Adran y Gymraeg. Bydd y ddwy Ysgoloriaeth i’w dal am dair blynedd fel arfer.

(d) Ysgoloriaeth Loveluck – £1,000 yf

Cynigir yr Ysgoloriaeth i ymgeiswyr o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud gradd yn y Gwyddorau Biolegol. Fe’i dyfernir bob pedair blynedd, i’w dal am dair blynedd fel arfer.

(dd) Ysgoloriaeth Miss S A Davies – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1929 dan gyfarwyddyd Ewyllys Miss Sarah A Davies, Llandysul. Mae’r Ysgoloriaeth hon yn gyfyngedig i ferched sy’n medru’r Gymraeg ac y mae eu rhieni’n byw ym Mhlwyf Llandysul neu yn drethdalwyr yno.

(e) Ysgoloriaeth Thomas Davies – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1911 gan Mr Thomas Davies, Bootle. Rhaid i ddeiliad yr ysgoloriaeth hon ymrwymo i astudio cynllun gradd sydd yn cynnwys cyrsiau Cemeg ac Amaethyddiaeth.

(f) Ysgoloriaeth Sir Alfred Jones – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1914 dan gyfarwyddyd Ewyllys Syr Alfred L Jones. Cynigir yr ysgoloriaeth hon bob yn ail flwyddyn i ymgeiswyr y mae eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn byw ym Mwrdeistref Caerfyrddin ac yn y
blynyddoedd eraill i ymgeiswyr y mae eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn byw yn unrhyw ran arall o Gymru (gan gynnwys Sir Fynwy) ac eithrio Bwrdeistref Caerfyrddin. Yn 2014, yr ail amod sydd yn berthnasol.

(ff) Ysgoloriaeth Thomas Lewis – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1953 dan gyfarwyddyd Ewyllys y ddiweddar Miss E C Lewis o Bennal, Machynlleth. Mae’r Ysgoloriaeth yn gyfyngedig i ymgeiswyr a fu, cyn mynd i’r Brifysgol, yn preswylio am dair blynedd o leiaf o fewn tair milltir i Eglwys y Plwyf ym Mhennal neu ym Mhlwyf Isygarreg yn Sir Drefaldwyn.

(g) Ysgoloriaethau Coffa David Morgan Thomas, Caterham – £1,000 yf

Ysgoloriaethau a sefydlwyd ym 1922 dan gyfarwyddyd Ewyllys Miss Elizabeth Ann Thomas. Mae’r ysgoloriaethau hyn yn gyfyngedig i feibion Gweinidogion Anghydffurfiol. Dylai ymgeiswyr nodi yn eglur ar ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad os credant eu bod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer y wobr yma.

(ng) Ysgoloriaeth Joseph Thomas – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1911 dan gyfarwyddyd Ewyllys Mr Joseph Thomas, Hwlffordd. Mae’r Ysgoloriaeth hon yn gyfyngedig i fechgyn a anwyd yn Siroedd Penfro, Caerfyrddin neu Geredigion, neu yn Nhref a Sir Hwlffordd.

Gwobrau Deuol

(hefyd ar gael i fyfyrwyr presennol)

Ysgoloriaeth Y Parch Herbert Morgan – £1,000 yf

Ysgoloriaeth a sefydlwyd ym 1946 dan gyfarwyddyd Ewyllys y Parch Herbert Morgan. Mae’r Ysgoloriaeth hon yn gyfyngedig i ymgeiswyr o Gymru. Fe ddyfernir yr Ysgoloriaeth fel arfer i ymgeisydd am fynediad i’r Brifysgol ar sail canlyniadau Arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad ond gall y Senedd ddyfarnu’r Ysgoloriaeth am gyfnod i fyfyriwr sydd yn dilyn cwrs i israddedigion yn y Brifysgol.

Ysgoloriaethau Prifysgol Cymru

Hysbysir darpar-ymgeiswyr y gall fod na fydd pob un o’r dyfarniadau isod ar gael bob blwyddyn. Ceir manylion llawn am y gwobrau hyn o:

Gofrestrfa Prifysgol Cymru (Ysgrifennydd Academaidd (Cyf. JP), Cofrestrfa Prifysgol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NS. Ffôn: 02920 376 957. Ffacs: 02920 376 981), ond ceir manylion am lle i ymgeisio am bob gwobr yn y llyfryn hwn.

(a) Ysgoloriaeth Plant Aberfan

Darperir yr Ysgoloriaeth hon o’r incwm o rodd i’r Brifysgol ym 1968 gan Gymdeithas Gymraeg San Francisco er cof am y plant a laddwyd yn nhrychineb Aberfan ym 1966. Diben yr ysgoloriaeth yw hybu awydd ymhlith pobl ifanc sy’n byw yn Aberfan ac yn mynd i’r ysgol yno i fynd i’r Brifysgol.

  1. Dyfernir yr ysgoloriaeth bob blwyddyn gan y Brifysgol i berson ifanc o oedran ysgol, yr oedd ei rieni yn byw yn Aberfan adeg y trychineb, neu os nad oes ymgeisydd â chymwysterau addas, i berson o oedran ysgol sy’n byw ym Merthyr Tudful.
  2. Yn y ddau achos uchod, dyma fydd trefn y flaenoriaeth:
    a. Ymgeiswyr sy’n bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd, yn fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf.
    b. Ymgeiswyr sy’n bwriadu mynd i unrhyw un o Sefydliadau Achrededig Prifysgol Cymru, yn fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf.
  3. Rhyw £800 y flwyddyn fydd gwerth yr ysgoloriaeth, a gall y swm hwn gael ei rannu rhwng dau neu ragor o ymgeiswyr â chymwysterau addas. Delir yr ysgoloriaeth am hyd at dair blynedd.
  4. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer yr ysgoloriaeth oddi wrth: Pennaeth y Swyddfa Academaidd (Cyf. JP), Cofrestrfa’r Brifysgol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NS, a rhaid eu dychwelyd iddo/iddi erbyn 1 Mehefin yn y flwyddyn y mae’r ymgeisydd yn bwriadu dechrau mynd i’r Brifysgol.

(b) Ysgoloriaeth Goffa D Lloyd Thomas – £600 yf

Darperir yr Ysgoloriaeth hon o’r incwm o rodd i’r Brifysgol ym mis Mehefin 1989 gan deulu a chyfeillion y diweddar D Lloyd Thomas, BSc PhD (Llundain), brodor o Faesteg, un o raddedigion y Brifysgol a fu’n addysgu yng Ngholeg Imperial, Llundain.

  1. Dyfernir ysgoloriaeth, o’r enw Ysgoloriaeth Goffa D Lloyd Thomas, a fydd yn werth tua £600, o dro i dro gan y Brifysgol, ar yr amod bod ymgeisydd addas ar gael.
  2. Bydd yr ysgoloriaeth ar gael, am gyfnod o dair blynedd fel rheol, yn y Sefydliadau Achrededig yn Aberystwyth ac Abertawe, y naill ar ôl y llall.
  3. Bydd yr ymgeiswyr ar gyfer yr ysgoloriaeth yn siarad Cymraeg, wedi eu derbyn i ddechrau cynllun gradd israddedig yn y sefydliad perthnasol, ac yn gallu bodloni gofynion matriciwleiddio’r Brifysgol. Hefyd, byddant naill ai wedi eu geni, new wedi bod yn preswylio, o fewn Sir Morgannwg Ganol. Rhoddir blaenoriaeth i unrhyw ymgeisydd o’r fath a anwyd, neu a fu’n preswylio, yn ardal Maesteg (fel y’i diffinnir gan ffiniau Bwrdeistref Ogwr).
  4. Os gall nifer o ymgeiswyr am yr ysgoloriaeth fodloni amodau Rheoliad 3 uchod, penderfynir dyfarniad yr ysgoloriaeth ar sail perfformiad cymharol yr ymgeiswyr yn yr arholiadau Safon Uwch TAG neu arholiad cyfatebol.
  5. Ni ddyfernir ysgoloriaeth ac eithrio i ymgeisydd teilwng.
  6. Ni fydd myfyriwr sydd eisoes wedi dechrau cynllun astudio ar gyfer un o raddau’r Brifysgol yn gymwys i gael dyfarniad.
  7. Cyhyd ag y caiff y Brifysgol adroddiad boddhaol oddi wrth y sefydliad ynghylch ymddygiad a chynnydd yr Ysgolhaig ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, gellir adnewyddu’r ysgoloriaeth am ddwy flynedd arall.
  8. Os na ddyfernir ysgoloriaeth mewn blwyddyn benodol, caiff unrhyw incwm cronnol o’r Gronfa ei ychwanegu at y swm cyfalaf a chaiff y gystadleuaeth nesaf am y dyfarniad ei chynnal yn y flwyddyn ganlynol.
  9. Os na ddyfernir ysgoloriaeth am dair blynedd o’r bron am nad oes ymgeiswyr cymwys ar gael, gellir anwybyddu’r amod preswylio ym Mharagraff 3 er mwyn caniatáu rhoi dyfarniad yn y flwyddyn ganlynol.
  10. Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno i Gofrestrydd y Sefydliad perthnasol, erbyn 15 Medi yn y flwyddyn honno.

(c) Ysgoloriaeth Dr Howell Rees – £500 yf

Darperir yr Ysgoloriaeth hon o’r incwm o gymynrodd i’r Brifysgol gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LR CP (1847-1933), Caerdydd. Yr Ysgoloriaeth Gyffredinol:

  1. Dyfernir “Ysgoloriaeth y Dr Howell Rees”, a fydd yn werth £500 y flwyddyn, gan y Brifysgol ar sail canlyniadau Arholiadau Ysgoloriaeth Fynediad a gynhelir gan neu ar ran Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe yn eu tro bob yn dair blynedd. Dylai ymholiadau gael eu cyfeirio at Gofrestrydd y Sefydliad.
  2. Ni chaiff yr Ysgoloriaeth ei dyfarnu oni cheir ymgeisydd teilwng.
  3. Bydd ymgeiswyr am yr ysgoloriaeth yn gymwys yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:
    (i). Y rhai hynny a anwyd yng Nghwmaman (yn Sir Gaerfyrddin) neu Frynaman neu Waun-cae-gurwen neu Gwmgors;
    (ii). Y rhai hynny yr oedd eu rhieni yn byw o fewn y ffiniau a ddiffinnir yn (i) ar adeg geni’r ymgeisydd;
    (iii). Y rhai hynny a anwyd yn Sir Gaerfyrddin.
  4. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd am yr ysgoloriaeth ddarparu dwy dystysgrif o‘u cymeriad da a bodloni awdurdodau’r Sefydliad Achrededig sy’n argymell y dyfarniad eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
  5. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fatricwleiddio yn y Brifysgol ac, adeg y dyfarniad, rhaid iddynt fod heb ddechrau ar gynllun astudio ar gyfer gradd ynddi.
  6. Bydd yn ofynnol i ddeiliad yr ysgoloriaeth ddilyn cynllun astudio ar gyfer gradd y Brifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, neu Brifysgol Abertawe, yn ôl dewis yr ysgolhaig. Gyda chymeradwyaeth y Brifysgol, caiff yr ysgolhaig drosglwyddo o’r naill i’r llall o’r Sefydliadau hyn tra bydd yn dal yr ysgoloriaeth.
  7. Cyhyd ag y caiff y Brifysgol adroddiad boddhaol oddi wrth ei Sefydliad ynghylch ymddygiad a chynnydd yr ysgolhaig ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, delir yr ysgoloriaeth am dair blynedd.
  8. Rhaid i geisiadau am wybodaeth am yr arholiad, ac am gael gwneud yr arholiad, gael eu hanfon at Gofrestrydd y Sefydliad lle cynhelir yr arholiad y mae’r ymgeisydd yn awyddus i’w sefyll.
  9. Rhaid i bob ymgeisydd y dyfernir ysgoloriaeth iddo, o fewn tair wythnos o gyhoeddi canlyniadau’r arholiad, roi gwybod i Gofrestrydd y Sefydliad y mae’n bwriadu mynd iddo, a ydyw’n derbyn yr ysgoloriaeth neu beidio.

(d) Ysgoloriaethau Price Davies – £400 yf

Darperir Ysgoloriaethau Price Davies o’r incwm o gymynrodd i’r Brifysgol ym 1900 gan y diweddar Mr Price Davies, Leeds.

  1. Cynigir tair ysgoloriaeth, a elwir Ysgoloriaethau Price Davies, a phob un yn werth £400 y flwyddyn, ar gyfer cystadleuaeth bob blwyddyn.
  2. Bydd yr ysgoloriaethau ar gael bob blwyddyn ar sail canlyniadau Arholiad yr Ysgoloriaeth Fynediad a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chyhyd ag y caiff y Brifysgol adroddiad boddhaol oddi wrth y Sefydliad ynghylch ymddygiad a chynnydd yr Ysgolhaig ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, fe’u delir am dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o’u hadnewyddu am bedwaredd flwyddyn.
  3. Dyfernir yr ysgoloriaeth yn amodol ar fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymhwyso i fatriciwleiddio yn y Brifysgol. Ni fydd myfyriwr sydd eisoes wedi dechrau ar gynllun astudio ar gyfer gradd yn y Brifysgol yn gymwys i ymgeisio.
  4. Ni ddyfernir ysgoloriaeth ac eithrio i ymgeisydd teilwng.
  5. Un o amodau dal Ysgoloriaeth Price Davies o dan yr adran hon yw bod y deiliad yn dilyn cynllun astudio ar gyfer gradd gychwynnol Prifysgol Cymru yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  6. Rhaid i geisiadau am fanylion yr arholiad, a manylion cael eich derbyn ar gyfer yr arholiad, gael eu cyfeirio at Gofrestrydd Prifysgol Aberystwyth.
  7. Rhaid i bob ymgeisydd y dyfernir ysgoloriaeth iddo/iddi, o fewn tair wythnos o gyhoeddi canlyniadau’r arholiad, hysbysu Cofrestrydd y Sefydliad a yw yn derbyn yr ysgoloriaeth neu beidio.