Cymorth i Gynllunio Gyrfa a Pharatoi am Swydd
Datblygu Sgiliau
Mae’r farchnad swyddi yn newid yn gyson ac mae’n amhosib rhagweld beth fydd y sefyllfa pan fyddwch yn graddio. Serch hynny, mae’n amlwg fod gan raddedigion fwy o obaith cael eu cyflogi na’r sawl sydd heb radd. Ond yn ogystal ag ennill gradd dda bydd angen hefyd i chi ddangos bod gennych y nodweddion a’r sgiliau y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
Yn ddiweddar, mae nifer o adroddiadau am ddatblygu sgiliau mewn Addysg Uwch ac arolygon ymhlith cyflogwyr wedi dangos bod y sgiliau canlynol yn bwysig mewn graddedigion:
- Datrys problemau
- Sgiliau ymchwil
- Cyfathrebu
- Gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun
- Gwaith tîm
- Technoleg gwybodaeth
- Defnyddio rhifedd
- Datblygu personol a chynllunio gyrfa
- Sgiliau pwnc benodol
Mae’r sgiliau hyn yn cael eu datblygu gan fyfyrwyr trwy amryw weithgaredd, a byddwch yn meithrin sgiliau newydd ac yn datblygu’r sgiliau sydd gennych eisoes trwy gydol cyfnod eich astudio. Ond mae’n bwysig hefyd ichi wneud y mwyaf o bob cyfle arall i ddatblygu sgiliau, er enghraifft, cymryd rhan mewn profiad gwaith, helpu i redeg clybiau a chymdeithasau, a defnyddio’r adnoddau chwaraeon, cerddorol a theatrig ardderchog sydd ar gael yn Aberystwyth.
Cyflwynodd y Brifysgol raglen o ddatblygu personol, sef yr Arolwg o Gynnydd Academaidd a Phersonol (AGAPh), i’ch gwneud yn fwy ymwybodol o’r sgiliau y byddwch yn eu dysgu yn y Brifysgol ac mewn mannau eraill. Eich adran sy’n rhedeg y cynllun ac fe fydd yn rhoi cyfle i chi edrych nôl ar eich cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y dyfodol. Cydnabyddir y broses o ddatblygu sgiliau hefyd yn ffurfiol gan y cynllun Credydau Ychwanegol, sy’n rhoi credydau i’r sawl sy’n cymryd rhan yng Nghynllun y Flwyddyn mewn Gwaith, a chewch gyfle i ennill Gwobr Datblygiad Proffesiynol City & Guilds trwy fynd ar leoliad gwaith GO Wales.
Gwybodaeth ac Arweiniad am Yrfaoedd
Efallai bod gennych eisoes syniadau am y math o yrfa yr hoffech ei dilyn, neu efallai eich bod yn lled anwybodus am y dewis eang o gyfleoedd sydd ar gael. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae’n hanfodol dechrau meddwl am eich datblygiad personol a phroffesiynol o’r diwrnod cyntaf. Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich cynorthwyo mewn sawl ffordd i wneud y penderfyniadau cywir am eich gyrfa a chyflawni’ch potensial llawn.
Lleolir y Gwasanaeth mewn man canolog ar y campws; mae ganddo lyfrgell ddefnyddiol a phob math o adnoddau technoleg gwybodaeth i’ch helpu i gynllunio gyrfa. Gall Cynghorwyr Gyrfaoedd profiadol roi cymorth gyda’r canlynol:
- Canfod a disgrifio eich cryfderau a’ch gwendidau
- Deall gofynion cyflogwyr
- Llunio cais effeithiol am swydd
- Paratoi am gyfweliad
- Cynllunio i astudio ymhellach
Trefnir gweithdai sgiliau ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft, creu CV, ceisiadau, cyfweliadau a phrofion cymhwysedd. Yr ydym hefyd yn trefnu rhaglen o ymweliadau gan gyflogwyr o sefydliadau mor amrywiol â’r Gwasanaeth Sifil a Logica, yn ogystal ag o gymdeithasau proffesiynol.
Rhaglen Datblygu Gyrfa
Nod y rhaglen hon yw rhoi gwybodaeth berthnasol i chi am gynllunio a datblygu’ch sgiliau rheoli gyrfa. Cynhelir sesiynau ymhob adran, ac mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu hymgorffori mewn modiwl academaidd. Mae’r pynciau yn cynnwys gwybodaeth am ofynion cyflogwyr, dadansoddi sgiliau, cynllun gweithredu a llawer myr.
Pasbort i’ch Dyfodol
Lansiwyd gwasanaeth cynhwysfawr a blaengar ar y we i fyfyrwyr. Trwy’r gwasanaeth gallwch:
- Dderbyn gwybodaeth berthnasol wedi ei seilio ar ddiddordebau ac anghenion penodol
- Archebu lle ar-lein mewn gweithdai, digwyddiadau a gweithgareddau
- Creu a storio cofnodion o weithgaredd a fydd yn ddefnyddiol wrth chwilio am swydd
- Paratoi am y dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithiol posib yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol
Tom Murray, BSc Bioleg, Surrey

Please turn on JavaScript.