Cyfleoedd i Raddedigion Cymru
Rhagolygon gwaith a hyfforddiant ardderchog i raddedigion Aberystwyth
Mae’r ystod eang o raglenni a chynlluniau a gynigir yn golygu bod israddedigion Aberystwyth mewn safle gwell nag erioed o’r blaen i’w paratoi eu hunain yn effeithiol i fyd gwaith ac astudio pellach. O’r myfyrwyr hynny a enillodd eu gradd gyntaf ym mis Mehefin 2006, roedd 90% o’r rhai a oedd ar gael i weithio wedi cael eu cyflogi a/neu wedi mynd ymlaen i astudiaeth uwchraddedig/lleoliadau ymchwil o fewn chwe mis.
Cyflogwyr yn targedu Aberystwyth
Caiff cyflogwyr eu denu i’r Brifysgol oherwydd cadernid y dysgu academaidd a llwyddiant y rhaglenni datblygu sgiliau a lleoliadau gwaith. Y mae rhwydwaith byd-eang o fusnesau mawr, canolig a bach (o ddiwydiant, masnach a’r sector preifat) yn cysylltu â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn uniongyrchol i recriwtio myfyrwyr y Cynllun mewn Gwaith a myfyrwyr rhyng-gyrsiau ac, wrth gwrs, graddedigion o bob disgyblaeth. Hysbysebir nifer fawr o swyddi gweigion yn y Llyfrgell Yrfaoedd, trwy Cyswllt Swyddi a thrwy wefannau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a GO Wales, ac mae’r Llyfrgell Yrfaoedd hefyd yn cadw gwybodaeth am gyrsiau uwchraddedig a chyllid.