Canolfan Profiad Gwaith

Cynllun y Flwyddyn Mewn Gwaith

Cyfle arbennig yw hwn y mae’r Brifysgol yn ei roi i fyfyrwyr wneud blwyddyn o brofiad gwaith cyflogedig rhwng ail a thrydedd blwyddyn eu cwrs. Mae’n weithgaredd gwirfoddol ac mae Aberystwyth yn eithriadol yn y DU yn cynnig cynllun o’r fath i’r holl fyfyrwyr pa bwnc gradd bynnag y maent yn ei ddilyn. Trwy’r cynllun cewch ragflas o faes gyrfa penodol a’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau swydd raddedig ac fe fyddwch yn datblygu hunanhyder ac aeddfedrwydd wrth ennill ‘profiad gwaith’ hollbwysig i’ch CV. Mae myfyrwyr y Cynllun yn gweithio mewn masnach, diwydiant a’r sector cyhoeddus – ac yn cael lleoliadau yng ngwledydd Prydain a thramor.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod y canran o raddedigion BMG sydd yn cael swydd ar lefel raddedig chwe mis wedi iddynt raddio yn uwch na’r ganran ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt yn dewis cymryd blwyddyn o brofiad gwaith.

Lleoliadau GO Wales

Mae GO Wales yn cynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a graddedigion yng Nghymru. Mae’r lleoliadau cyflogedig hyn yn gyfle i wella’ch CV yn ddramatig ac felly’n cynyddu’ch cyfle o lwyddo i gael swydd yn y tymor hir. Ar y cyfan maent yn lleoliadau am ddeg wythnos yr un, a byddwch yn gweithio i fusnesau bach neu
ganolig eu maint i ennill profiad go iawn ar brosiect ar lefel raddedig. Manteision gweithio i gwmni llai yw amrywiaeth swyddogaethau, cyfrifoldebau clir a boddhad gwaith.

Rhagflas o Waith GO Wales

Mae’r cyfnodau rhagflas yn gyfnodau byrrach, mwy hyblyg o brofiad gwaith a gynlluniwyd i’ch helpu i benderfynu ar yr yrfa orau ar eich cyfer. Mae’r rhain ar gael trwy gydol y flwyddyn, ac maent yn lleoliadau gwirfoddol, di-gyflog er y gallwch hawlio costau teithio. Maen nhw’n gyfle ardderchog i gael profiad gwaith gwerthfawr a
geirda i wella eich CV ar gyfer ceisiadau gwaith yn y dyfodol.