Llety

Rhif Ffôn Arbennig Clirio (Llinell ffôn ddi-dâl): 0800 121 40 80

Sicrwydd o lety i’r holl fyfyrwyr sy’n gwneud cais drwy’r Broses Glirio*

Pam byw gyda ni?

  • Dim ond £100 o Ffi Derbyn i'w dalu
  • Yr holl filiau ynni yn gynwysedig
  • Rhyngrwyd gwifredig a di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig
  • AELODAETH blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles
  • Yswiriant yn gynwysedign
  • Help a chymorth 24/7 - Gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio
  • Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety
  • Adnoddau golchi dillad ar y safle
  • Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref
  • Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety
  • Cytundebau Trwydded Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'
  • Dewis i fyw gyda'ch ffrindiau mewn fflatiau/tai sydd â rhwng 2 a 10 o ystafelloedd gwely
  • Amrywiaeth o hydoedd trwyddedau a llety haf y Brifysgol ar gael

 

Ewch i’n gweddalennau llety i gael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau llety.

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am lety drwy’r broses Glirio yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin.

*Mae telerau ac amodau yn berthnasol; os gwelwch yn dda cyfeiriwch at ein Polisi Blaenoriaethau am fanylion pellach.

 

Croeso i Fferm Penglais