Amaethyddiaeth
Mae enw da Aberystwyth wedi ei hen sefydlu ledled y byd amaethyddol am safon y dysgu a’r ymchwil mewn amaethyddiaeth, ac yn wir dysgwyd Astudiaethau Tir yma ers dros 120 mlynedd. Darperir y cyrsiau amaethyddiaeth gan Sefydliad Gwyddorau Gwledig y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Arolwg Busnesau Fferm Cymru a Chanolfan Organig Cymru. Caiff ffermydd y Brifysgol, sy’n ymestyn dros 1,000 hectar (2500 erw), eu rheoli yn fasnachol gan y Sefydliad yn ogystal â’u defnyddio fel adnoddau gwych i bwrpas dysgu ac ymchwil. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau cryf ym maes addysgu ac ymchwil â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gerllaw, sefydliad arall sy’n enwog ledled y byd.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gradd a gynlluniwyd ar gyfer gofynion diddordebau penodol a rhagolygon gyrfa penodol. Y mae’r radd gyffredinol mewn Amaethyddiaeth a’r radd fwy arbenigol, Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid, ill dwy yn rhaglenni pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn rhyng-gwrs.