Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid
D4D3 – Gradd Anrhydedd BSc
4 blynedd gan gynnwys 9 mis o brofiad gwaith
Mae enw da Aberystwyth wedi ei hen sefydlu ledled y byd amaethyddol am safon y dysgu a’r ymchwil mewn amaethyddiaeth, ac yn wir dysgwyd Astudiaethau Tir yma ers dros 120 mlynedd. Darperir y cyrsiau amaethyddiaeth gan Sefydliad Gwyddorau Gwledig y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Arolwg Busnesau Fferm Cymru a Chanolfan Organig Cymru. Caiff ffermydd y Brifysgol, sy’n ymestyn dros 1,000 hectar (2500 erw), eu rheoli yn fasnachol gan y Sefydliad yn ogystal â’u defnyddio fel adnoddau gwych i bwrpas dysgu ac ymchwil. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau cryf ym maes addysgu ac ymchwil â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gerllaw, sefydliad arall sy’n enwog ledled y byd.
Cynnwys a Strwythur – Blwyddyn 1
Bydd blwyddyn gyntaf y cynllun yn cynnwys cyflwyniad cyffredinol i amaethyddiaeth, astudio systemau cynhyrchu anifeiliaid, gwyddor anifeiliaid, gwyddor cnydau, rheoli cnydau grawnfwyd a pheirianneg amaethyddol, ynghyd â chyflwyniad i’r economi wledig ac ecoleg cynefinoedd.
Blynyddoedd 2 a 4
Yn yr ail a’r bedwaredd flwyddyn, byddwch chi’n cael cyfle i astudio dewisiadau mwy arbenigol. Wrth astudio pynciau craidd megis systemau cnydau a da byw, cynllunio fferm a rheoli busnes, bridio anifeiliaid, maetheg da byw, gwyddor cynhyrchu anifeiliaid a bwyd, ffermio a’r amgylchedd, ceir cyfle i arbenigo trwy’r dewisiadau sy’n cynnwys astudio iechyd anifeiliaid, ffisioleg atgenhedlu, rheoli a iechyd da byw organig, maetheg uwch anifeiliaid cnoi cil a mecaneiddio mewn amaeth da byw a chnydau.
Rhan bwysig o’r flwyddyn olaf yw’r Traethawd Hir Anrhydedd sy’n rhoi cyfle i chi arbenigo trwy ymchwilio i bwnc o’ch dewis eich hun. Mae mynd ar daith i astudio amaethyddiaeth mewn ardal wahanol hefyd yn ddewis yn y flwyddyn olaf.
Profiad Gwaith
Mae’r drydedd flwyddyn yn gyfnod o brofiad gwaith sy’n rhan annatod o’r ddau gwrs. Diben y profiad gwaith yw ceisio cysylltu gwyddoniaeth ac economeg ag arferion presennol yn y diwydiant.
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a geir yn ystod y profiad gwaith yn cyfrannu’n fawr at eich astudiaethau yn y flwyddyn olaf a bydd yn eich helpu i gael gwaith ar ôl graddio. Gellir teilwra’r profiad gwaith i fodloni’ch gofynion penodol chi ac maent yn cynnwys rheoli ffermydd, y sector cynorthwyo amaethyddiaeth neu ymchwil a datblygu. Bob blwyddyn mae nifer o fyfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i fynd ar brofiad gwaith dramor.
Efallai y bydd modd hepgor rhan o’r elfen hon os oes gennych brofiad gwaith addas blaenorol.
Dysgu ac Addysgu
Mae’r cynllun gradd Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, prosiectau ac astudiaethau achos. Hefyd ceir ymweliadau â ffermydd, gorsafoedd ymchwil a busnesau amaethyddol ledled y DU. Byddwch chi’n cael eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs yn seiliedig ar aseiniadau, prosiectau, traethodau a seminarau, yn ogystal ag arholiadau ysgrifenedig.
Gyrfaoedd ar ôl Graddio
Mae ein graddedigion wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn nifer o ddiwydiannau amaethyddol neu ddiwydiannau sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gan gynnwys rheoli ffermydd, asiantaethau ymgynghorol, cyllid amaethyddol, cynhyrchu a phrosesu bwyd, a chwmnïau cyflenwi ffermydd. Mae rhai hefyd wedi mynd i weithio mewn diwydiannau a sefydliadau nad ydynt yn ymwneud ag amaethyddiaeth, oherwydd bod y sgiliau a ddatblygir drwy’ch astudiaethau a’ch profiad gwaith yn hawdd i’w trosglwyddo i lawer o swyddi eraill i raddedigion.