Amaethyddiaeth
D401 - Gradd Anrhydedd BSc
4 blynedd gan gynnwys 9 mis o brofiad gwaith
Mae enw da Aberystwyth wedi ei hen sefydlu ledled y byd amaethyddol am safon y dysgu a’r ymchwil mewn amaethyddiaeth, ac yn wir dysgwyd Astudiaethau Tir yma ers dros 120 mlynedd. Darperir y cyrsiau amaethyddiaeth gan Sefydliad Gwyddorau Gwledig y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Arolwg Busnesau Fferm Cymru a Chanolfan Organig Cymru. Caiff ffermydd y Brifysgol, sy’n ymestyn dros 1,000 hectar (2500 erw), eu rheoli yn fasnachol gan y Sefydliad yn ogystal â’u defnyddio fel adnoddau gwych i bwrpas dysgu ac ymchwil. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau cryf ym maes addysgu ac ymchwil â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gerllaw, sefydliad arall sy’n enwog ledled y byd.
Cynnwys a Strwythur - Blwyddyn 1
Bydd blwyddyn gyntaf y cynllun yn cynnwys cyflwyniad cyffredinol i amaethyddiaeth; astudir systemau atgynhyrchu anifeiliaid, gwyddor anifeiliaid,
gwyddor cnydau, rheoli cnydau grawnfwyd a pheirianneg amaethyddiaeth, ynghyd â chyflwyniad i’r economi wledig ac ecoleg cynefinoedd.
Blynyddoedd 2 a 4
Yn ail a phedwaredd flwyddyn y cwrs mae gennych gyfle i ddilyn trywydd mwy arbenigol wrth i’r rhaglenni Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid wahanu. Byddwch yn astudio pynciau craidd fel systemau cnydau ac anifeiliaid, cynllunio fferm, rheoli busnes a bwyd, a ffermio a’r amgylchedd, a chewch gyfle i arbenigo trwy gyfrwng dewisiadau sy’n cynnwys astudio iechyd anifeiliaid, ffisioleg atgynhyrchu, bridio anifeiliaid, maethiad da byw, mecaneiddio da byw a chnydau, rhyngweithio rhwng cnydau a’r amgylchedd, a rheoli coetiroedd.
Nodwedd arbennig yn y flwyddyn olaf yw’r Traethawd Estynedig Anrhydedd sy’n rhoi cyfle i chi arbenigo trwy ymchwilio ar destun o’ch dewis eich hun. Y mae taith astudio amaethyddol mewn rhanbarth wahanol hefyd yn ddewis yn y flwyddyn olaf.
Profiad Gwaith
Cyfnod o brofiad gwaith yw’r drydedd flwyddyn sy’n rhan annatod o’r cyrsiau Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid. Y nod yw
cysylltu gwyddor ac economeg ag arferion presennol y diwydiant. Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau a enillwch trwy’r profiad gwaith yn cyfoethogi’ch
astudiaethau yn y flwyddyn olaf ac fe fydd o gymorth wrth i chi chwilio am swydd ar ôl graddio. Gellir teilwra profiad gwaith i gwrdd â gofynion penodol ac mae'n cynnwys rheoli fferm, y sector cymorth i ffermydd neu ymchwil a datblygu. Bob blwyddyn mae nifer o fyfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael
profiad gwaith dramor.
Y mae hefyd yn bosibl mewn rhai achosion i gael eich eithrio o brofiad gwaith yn rhannol os ydych wedi cael profiad o waith addas tebyg yn y gorffennol.
Dysgu ac Addysgu
Dysgir y cwrs gradd Amaethyddiaeth trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, prosiectau ac astudiaethau achos. Ychwanegir
ymweliadau â ffermydd, gorsafoedd ymchwil a busnesau amaethyddol ledled y Deyrnas Unedig. Yn ogystal ag arholiadau ysgrifenedig, asesir trwy waith
cwrs wedi ei seilio ar aseiniadau, prosiectau, traethodau a seminarau.
Gyrfa
Aeth graddedigion o’r Sefydliad i yrfaoedd llwyddiannus mewn nifer o agweddau ar amaethyddiaeth a’r diwydiannau cysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan
gynnwys rheoli fferm, asiantaethau ymgynghori, cyllid amaethyddol, prosesu a chynhyrchu bwyd, a chwmnïau cyflenwi ffermydd. Aeth rhai hefyd ymlaen
i ddiwydiannau a sefydliadau nad ydynt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, am fod y sgiliau a ddatblygir drwy’r astudio a’r profiad gwaith yn hollol
drosglwyddadwy i nifer o sefyllfaoedd lle cyflogir graddedigion.
Ar gael ynghyd â:
BSc
Gwyddor Anifeiliaid -D4D3