Amaethyddiaeth gydag Astudiaethau Busnes


D4N1 - Gradd Anrhydedd BSc 3 blynedd

Cynllun yw hwn sy’n cwrdd â’r galw mawr am raddedigion sy’n deall amaethyddiaeth a byd busnes. Y mae’n addas i ymgeiswyr heb gefndir ffermio, yn ogystal â rhai sydd â pheth gwybodaeth am amaethyddiaeth, gan ei fod yn rhoi gafael da ar systemau a gwyddor amaethyddiaeth ynghyd ag egwyddorion ac arferion busnes.
Er nad yw cyfnod o brofiad gwaith yn orfodol ar y cynllun, cewch eich annog i gymryd lleoliad gwaith rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn, gan fod y profiad nid yn unig yn ychwanegu at astudiaethau’r flwyddyn olaf, ond hefyd yn hybu eich cyfle am swydd ar ôl graddio.

Cynnwys a Strwythur - Blwyddyn 1

Bydd y flwyddyn gyntaf yn cwmpasu amaethyddiaeth a busnes, gan gyflwyno systemau ac egwyddorion sylfaenol ffermio ynghyd â modiwlau craidd busnes ym maes marchnata, yr economi wledig, egwyddorion economaidd a chyfrifeg rheolaeth. Bydd modiwlau dewisol yn rhoi cyfle ichi arbenigo ymhellach ar bynciau amaethyddol neu fusnes yn ôl eich diddordebau a’ch bwriadau o ran gyrfa.

Blwyddyn 2

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn rhoi’r theori a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf ar waith mewn busnes fferm unigol, a’r sector busnes amaethyddol cyfan. Bydd cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid yn cael eu hystyried mewn mwy o ddyfnder, ac fe gyflwynir cyfraith busnes. Mae’r modiwlau ychwanegol yn cynnwys rheoli busnes bach, marchnata, a nifer o bynciau amaethyddol.

Blwyddyn 3

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn canolbwyntio ar gynllunio technegol a rheolaeth integredig ar lefel y fferm gyfan, a byddwch yn gwneud ymchwil ar agweddau o’ch dewis eich hun. Cynigir hefyd fodiwl cwrs maes, modiwl o seminarau, modiwl polisi amaethyddol, a chyfle i astudio cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid neu gyfrifeg reoli ar lefel uwch.

Dysgu ac Addysgu

Dysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, prosiectau, astudiaethau achos, ac ymweliadau â ffermydd, gorsafoedd ymchwil a busnesau amaethyddol yn lleol ac mewn rhannau eraill o Brydain. Asesir yn barhaus, trwy brosiectau, traethodau a gwaith seminar, yn ogystal ag arholiadau ysgrifenedig.

Gyrfa

Mae galw mawr ymhlith cyflogwyr mewn busnesau amaethyddol a nifer o broffesiynau eraill am y cyfuniad o wybodaeth a sgiliau a gynigir gan y cynllun hwn. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cynghori ac ymgynghori, a rheoli ffermydd ac ystadau. Y mae hefyd yn gymhwyster rhagorol am yrfa mewn ffermio neu fusnesau eraill. Symudodd rhai graddedigion y tu allan i yrfaoedd sy’n uniongyrchol berthnasol i amaethyddiaeth, e.e. cyfrifeg, technoleg gwybodaeth, newyddiaduraeth, cynhyrchu nwyddau, gwerthu nwyddau, a dysgu.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol