Amaethyddiaeth gyda Rheoli Cefn Gwlad
D444 - Gradd Anrhydedd BSc 3 blynedd
Rhoi gwybodaeth am amaethyddiaeth a dealltwriaeth o’i gyfraniad cynyddol i gadwraeth yr amgylchedd, mentrau gwledig, mynediad i gefn gwlad, a hamdden y mae’r cynllun hwn.
Anogir ffermwyr yn gyson i ddefnyddio dulliau amgylcheddol-gyfeillgar, ac mae cymorthdaliadau wedi eu cysylltu fwyfwy â chytundebau rheoli i warchod y tirwedd, bywyd gwyllt, a nodweddion naturiol eraill ar y fferm. Ar yr un pryd, mae pwysau economaidd yn gorfodi ffermwyr i chwilio am gyfeiriadau newydd a dysgu sgiliau rheoli busnes sy’n fwyfwy soffistigedig. Mae’r cynllun hwn yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau technegol ac ymarferol sydd eu hangen ar reolwyr modern y tir i ymdopi â’r galwadau hyn sy'n groes i'w gilydd.
Blwyddyn 1 a 2
Bydd eich dwy flynedd gyntaf yn rhoi sylfaen mewn gwyddor cnydau ac anifeiliaid, systemau cynhyrchu ac economeg wledig, ynghyd â modiwlau craidd mewn technoleg gwybodaeth ac ystadegaeth. Bydd modiwlau dewisol yn cynnig amryw bynciau, gan gynnwys coedwigaeth a choetiroedd, ecoleg cynefinoedd, pobl yng nghefn gwlad, a sefydliadau cefn gwlad.
Blwyddyn 3
Bydd gennych ddewis helaeth o fodiwlau amgylcheddol yn eich blwyddyn olaf ynghyd â gwleidyddiaeth amaethyddiaeth a chefn gwlad. Byddwch hefyd yn paratoi traethawd estynedig ar eich dewis bwnc a fydd yn cyfrannu credydau at eich gradd.
Dysgu ac Addysgu
Darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, prosiectau ac astudiaethau achos yw’r dulliau dysgu, ynghyd â gwaith maes ac ymweliadau yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain. Defnyddir prosiectau, traethodau a seminarau i asesu’n barhaus yn ogystal ag arholiadau ysgrifenedig. Nid yw profiad gwaith yn amoddil yn y cynllun hwn, ond cewch eich annog i’w ystyried.
Gyrfa
Mae mwy a mwy o alw ar ran cyflogwyr am y cyfuniad o wybodaeth am amaethyddiaeth a’r amgylchedd a geir yn y cynllun hwn. Bydd yn eich paratoi am yrfa mewn rheoli ffermydd, yn y gwasanaethau ymgynghori a chymorth technegol, ymchwil a datblygu, masnach ac addysg. Mae’n arbennig o addas i waith mewn ardaloedd lle mae ffermio’n cydblethu â defnydd arall o’r tir, a bydd galw cynyddol amdano wrth i reoli amgylcheddol fynd yn rhan hanfodolo system pob fferm.