Amaethyddiaeth


D402 Gradd Sylfaen - 2 flynedd

Cymhwyster galwedigaethol ym myd addysg uwch yw Gradd Sylfaen, sy’n ceisio pontio’r gofod rhwng y mynediad cyntaf i addysg uwch a gradd anrhydedd, gan ganiatáu symud ymlaen i lefel anrhydedd.

Cynnwys a Strwythur

Mae Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth yn rhoi cyfle i’r rhai sydd eisiau dilyn llwybr galwedigaethol at lefel gradd neu bobl a hoffai ailhyfforddi er mwyn newid gyrfa. Gall y rhai sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau gradd cysylltiedig BSc (Anrh).

Mae’r radd sylfaen hon yn ehangu ymhellach y dewis o gyrsiau amaethyddol sydd eisoes yn cael eu cynnig yn Aberystwyth ac yn adeiladu ar arbenigedd cydnabyddedig y Sefydliad Astudiaethau Gwledig mewn cyrsiau galwedigaethol, cymhwysol. Bydd y cwrs yn rhoi i chi sylfaen gadarn o wybodaeth ymarferol a gwyddonol am yrfa yn y diwydiant amaeth. Bydd y flwyddyn o brofiad gwaith yn elfen bwysig o’r cwrs, gan roi cyfle i gymhwyso theori mewn cyd-destun ymarferol. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais penodol ar systemau cynhyrchu da byw, rheoli tir glas, a rheoli busnes fferm, yn ogystal ag adlewyrchu rôl gyfnewidiol amaethyddiaeth yng nghefn gwlad.

Blwyddyn 1

Bydd y flwyddyn gyntaf yn rhoi gwybodaeth sylfaenol gadarn am systemau cynhyrchu da byw, rheoli pridd a chnydau, peirianneg amaethyddol ac arolwg o’r diwydiant amaethyddol – y cwbl wedi ei gynllunio i’ch paratoi am eich lleoliad gwaith.

Profiad Gwaith

Caiff natur alwedigaethol y cwrs ei hatgyfnerthu gan gyfnod o brofiad gwaith rhwng blwyddyn 1 a 2. Mae hwn yn rhan o’r cwrs a asesir, ac yn gyfle i gymhwyso’r hyn a ddysgoch eisoes i sefyllfa ymarferol. Gellir teilwra’r profiad gwaith i’ch diddordebau penodol chi. Dewisodd nifer o fyfyrwyr amaethyddol weithio dramor, er enghraifft yng Nghanada, Seland Newydd neu Awstralia, er mwyn cael profiad o systemau amaethyddol mewn rhannau eraill o’r byd.

Blwyddyn 2

Nod eich blwyddyn olaf yw datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae systemau ffermio yn gweithredu a’r effaith a gânt ar yr amgylchedd a’r economi gwledig.

Bydd y testunau a drafodir yn cynnwys cynllunio a rheoli busnes fferm, ffermio bwyd a’r amgylchedd, maethiad anifeiliaid a systemau cynhyrchu, a systemau mecaneiddio ar gyfer da byw a chnydau.

Symud Ymlaen i BSc (Anrh)

Os byddant yn cwblhau y Radd Sylfaen yn llwyddiannus caiff myfyrwyr symud ymlaen i drydedd flwyddyn un o’n cynlluniau gradd BSc (Anrh).

Gyrfa

Bydd y Radd Sylfaen hon yn eich paratoi am bob math o yrfaoedd ym myd amaeth, er enghraifft:

  • Rheoli fferm
  • Gwasanaethau technegol ac ymgynghorol
  • Marchnata gwledig a mentrau amaethyddol
  • Mentrau cynhyrchu bwyd
  • Ymchwil a datblygu

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol