Amaethyddiaeth Organig
D460 - 1 flwyddyn
Rhagofynion: HND neu Radd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth Organig neu gyffredinol; cwblhau blwyddyn 1 a 2 gradd addas yn llwyddiannus.
Y mae amaethyddiaeth organig, gyda'i botensial i gyfrannu tuag at warchod yr amgylchedd a datblygiad gwledig, yn faes sy'n tyfu yn gyflym yn Ewrop a’r DU, o ran sylfaen cynhyrchu a’r farchnad. Mae’r rhagolygon yn dangos tŵf parhaus hyd at dros 10% o amaethyddiaeth Ewrop erbyn 2010, gan greu nifer o gyfleoedd am swyddi yn y sector. Y mae’r anogaeth a roddir gan lywodraeth y DU i ffermwyr drosglwyddo trwy’r Cynllun Ffermio Organig yn gydnabyddiaeth i’r potensial hwn yn yr un modd ag yr oedd sefydlu Canolfan Organig Cymru, a leolir yn Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, yn y flwyddyn 2000 gyda chyllid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Cynllun blwyddyn atodol arbenigol i ennill gradd BSc (Anrh) Amaethyddiaeth Organig
- Unigryw yn y DU
- Cysylltiadau cryf ag ymchwil gyfredol yn Sefydliad y Gwyddorau Gwledig
- Perthnasol i ddiwydiant
Cwrs blwyddyn modiwlar yw hwn sy'n arwain at radd BSc (Anrh). Fe'i cynlluniwyd yn benodol i'r rhai sydd wedi cwblhau HND neu Radd Sylfaen yn llwyddiannus mewn amaethyddiaeth organig neu gyffredinol. I gael mynediad i'r cynllun bydd angen i chi fod wedi cael lefel teilyngdod, neu uwch na hynny, mewn o leiaf 75% o'r credydau yn eich cwrs HND, neu wedi pasio Gradd Sylfaen gymeradwy.
Cynnwys a Strwythur
Byddwch yn astudio nifer o fodiwlau sy'n cynnwys iechyd a rheoli da byw organig, rheoli busnes organig, cynhyrchu cnydau organig, systemau amgylcheddol–amaethyddol a bwyd-amaeth a marchnata. Byddwch hefyd yn paratoi traethawd hir neu adolygiad llenyddol ar bwnc o'ch dewis chi a fydd yn cyfrannu tuag at eich asesiad terfynol, ac sy'n caniatáu i chi ddilyn trywydd pwnc sydd o ddiddordeb penodol mewn dyfnder.
Dysgu ac Addysgu
Mae'r dulliau dysgu yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, prosiectau ac astudiaethau achos yn ogystal ag ymweliadau.
Y mae gan y Sefydliad ei fferm organig ei hun, Frongoch, sydd yn cynnwys mentrau eidion, defaid a chnydau. Bydd ymweliadau â'r fferm hon ac â ffermydd organig eraill yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys taith astudio, yn rhan hanfodol o'r cwrs.
Gyrfa
Mae'r cynllun atodol hwn yn canolbwyntio ar reolaeth ac yn berthnasol iawn i'r diwydiant. Fe'i hanelir at yrfaoedd yn rheoli ffermydd a busnesau amaethyddol ac yn gweithio mewn gwasanaethau ymgynghori, archwilio ac ardystio. Y mae cyfle am swyddi hefyd lle ceir cyswllt rhwng amaethyddiaeth a phrosesu, ac mewn cwmnïau marchnata a manwerthu lle mae angen dealltwriaeth dda o systemau ffermio organig.
Hyd yn oed os na fyddwch yn gweithio yn y sector organig yn y diwedd bydd y cynllun yn rhoi i chi gyfres o sgiliau trosglwyddadwy sy'n eich paratoi am yrfa yn y sector amaethyddol ehangach a chydag asiantaethau amaethyddol sy'n ymwneud â gwella safonau rheoli'r amgylchedd mewn amaethyddiaeth.
Manylion Cyswllt
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a GwledigAdeilad Stapledon
Prifysgol Aberystwyth
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3AL
Ffôn: 01970 624 471 Ffacs: 01970 611 264 Ebost: ibers@aber.ac.uk