Mae’r cynllun yn rhoi hyfforddiant galwedigaethol perthnasol mewn gwyddor anifeiliaid, gan fanteisio ar enw da cydnabyddedig Aberystwyth o fod yn ganolfan ragoriaeth mewn ymchwil yn y maes hwn.

Cynnwys a Strwythur

Mae’r cynllun yn un hyblyg, fel y gallwch arbenigo mewn maes sy’n addas i’ch diddordebau penodol, a’ch bwriadau arbennig chi o ran gyrfa. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, sy’n gyffredin i sawl cwrs, byddwch yn dewis un o dri llwybr. Yn ogystal â phynciau craidd, yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn astudio naill ai Gwyddor Cynhyrchu Anifeiliaid, Bioleg Anifeiliaid neu Gwyddor Ceffylau.  Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddewis, gallwch fanteisio ar yr amrywiaethanhygoel o arbenigedd ac adnoddau a gynigir trwy gysylltiadau cynyddol gryf y Sefydliad â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’rAmgylchedd.

Blwyddyn 1 - Bydd y flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen ym maes systemau cynhyrchu anifeiliaid, anatomeg anifeiliaid, sŵoleg, ffisioleg ymarfer, biocemeg, fframwaith ametaboleg celloedd, geneteg a rheoli gwybodaeth.

Blynyddoedd 2 a 3 - Bydd modiwlau craidd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn dyfnhau’ch gwybodaeth am faeth anifeiliaid, iechyd a lles anifeiliaid, imiwnoleg, ffisioleg atgenhedlu, parasitoleg, biotechnoleg, bridio anifeiliaid, biofoeseg anifeiliaid, ymddygiad anifeiliaid, a thechnegau ymchwil a dulliau ystadegol. Cewch gyfle hefyd i astudio rhai o’r technolegau sy’n newydd i faes gwyddor anifeiliaid, megis genomeg, proteomeg a metabolomeg.

Yn ogystal â’r modiwlau craidd a restrwyd uchod, byddwch yn dewis un o bedwar llwybr, a fydd yn gyfle i astudio diddordebau arbenigol:

Mae Gwyddor Cynhyrchu Anifeiliaid yn cynnwys modiwlau mewn cynhyrchu cig a nwyddau llaeth, maetheg, iechyd anifeiliaid, rheoli anifeiliaid organig a’uhiechyd, a rheoli tir glas;

Mae Gwyddor Ceffylau yn cynnwys meysydd megis ffisioleg perfformiad ceffylau, maeth ac atgenhedlu mewn ceffylau;

Mae Bioleg Anifeiliaid yn cynnwys astudiaeth o agweddau mwy sylfaenol, megis bioleg folecylaidd, cemeg proteinau ac ensymau, ymddygiad anifeiliaid, ffarmacoleg folecylaidd, cyfathrebu rhwng celloedd ac adnabod celloedd.

Mae Gwyddor Anifeiliaid Anwes yn cynnwys astudio iechyd, lles, anatomi, ffisioleg a maeth anifeiliaid megis cŵn, cathod, llygod, adar a rhai o’r rhywogaethau mwy ecsotig.

Bydd gennych gyfle pellach i ddilyn trywydd diddordebau penodol yn y traethawd estynedig yn eich blwyddyn olaf, a seilir ar brosiect ymchwil unigol.

Dysgu ac Addysgu

Yn ogystal â darlithoedd a seminarau, bydd amrywiaeth o weithgaredd sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr, megis sesiynau ac arddangosfeydd ymarferol yn y labordy, prosiectau ac aseiniadau, ac ymweliadau â chanolfannau ymchwil, yn eich helpu i integreiddio gwyddor ac arferion. Seilir asesiadau ar gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig.

Gyrfa

Bydd y cynllun hwn yn creu'r cyfle am yrfaoedd o bob math mewn ymchwil wyddonol mewn cwmnïau preifat a chyhoeddus, hyfforddiant milfeddygol, gwasanaethau cynghori ac ymgynghori, diwydiant ffarmacolegol a bwyd anifeiliaid, ac addysg. Y mae graddedigion hefyd wedi datblygu gyrfa mewn meysydd sydd heb gysylltiad amlwg, er enghraifft y gwasanaeth sifil neu reoli personél, am fod gwerth i’r sgiliau a ddysgwch ymhob math o feysydd lle cyflogir graddedigion. Y mae’r cynllun hwn yn aml hefyd yn arwain at ymchwil uwchraddedig ar lefel MSc a PhD.

Ar gael ynghyd â:

BSc

Amaethyddiaeth - D4D3

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol