Celfyddyd Gain a Hanes Celf
Yma yn Aberystwyth ceir cyfle prin i gyfuno agweddau ymarferol ac academaidd wrth astudio Celfyddyd Gain o fewn i fframwaith modiwlar hyblyg. Cynigir nifer o gynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Celfyddyd Gain a Hanes Celf a/neu bwnc arall o’r dyniaethau neu ieithoedd Ewropeaidd. Yn ei chartref mewn adeilad Edwardaidd rhestredig urddasol, â golygfa wych o Fae Ceredigion, mae’r Ysgol Gelf yn falch iawn o’r adnoddau ardderchog sydd ganddi i’w cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys sawl stiwdio fawr olau, gweithdai argraffu, ystafell Mac, ystafelloedd tywyll, theatrau darlithio, ac ystafelloedd seminar, ynghyd ag orielau ar gyfer arddangosfeydd gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal ag arddangosfeydd teithiol.
Y Cynlluniau Gradd
Y gwahaniaeth pennaf rhwng astudio celf yn y Brifysgol hon ac astudio celf mewn canolfan addysg uwch arall yw’n hymrwymiad i waith stiwdio ac i astudiaeth academaidd. Mae’r Ysgol yn cyfuno astudiaeth o sgiliau a thechnegau traddodiadol â theori a gwaith ymarferol cyfoes. Credwn fod gwybodaeth drylwyr o gelf y gorffennol yn hyrwyddo arferion presennol celf. Yn yr un modd, mae gwybodaeth drylwyr am y dulliau a ddefnyddir i wneud gwrthrychau celf yn gymorth i ni ddeall ei hanes. Nid yw’r Ysgol yn ceisio cyflawni hyn trwy gyfuno Celf Ymarferol a Hanes Celf fel pe na bai gwahaniaethau. Yn hytrach mae’n eu cyflwyno fel dwy ddisgyblaeth wahanol sydd â’u gofynion eu hunain. Dysgir yr holl gyrsiau gan staff sy’n arlunwyr neu’n haneswyr celf neu’n guraduron ac yn weithgar mewn ymchwil yn y maes.
Yn yr Ysgol Gelf gellir astudio am radd israddedig neu uwchraddedig mewn Celfyddyd Gain a Hanes Celf. Yn ogystal ag ymarfer ac astudio celf mewn cyd-destun personol, cymdeithasol a hanesyddol, un agwedd sy’n bwysig i ni yw syniadau am berthynas celf â bywyd a syniadaeth gyfoes. Mae’r ffaith ein bod mor agos at gasgliadau celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fantais fawr i ni.
Mae’r brifysgol hon yn un o’r ychydig ym Mhrydain sy’n cynnig cyrsiau Anrhydedd Cyfun mewn Celfyddyd Gain a Hanes Celf; anelir rhain at fyfyrwyr a hoffai gyfuno astudiaeth o gelf â phwnc academaidd arall. Oherwydd natur hyblyg y cwrs, gallwch ohirio dewis cynllun terfynol eich gradd tan ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae’r celfyddydau gweledol yn llawn cyffro ac yn faes sy’n gofyn llawer gan fyfyrwyr. Er mwyn eu hastudio rhaid bod gennych sensitifrwydd cynyddol ynglŷn â’r byd gweledol. Bydd angen hefyd y penderfyniad i gyfuno’n drefnus waith astudio dadansoddol, creadigol ac ymarferol. Mae cynnwys academaidd y cynllun yn gofyn am safon uchel o waith ysgrifenedig, a’r cyrsiau stiwdio’n gofyn am gryn allu wrth arfer celfyddyd.
Astudio a Theithio yn ystod y Gwyliau
Trefnir teithiau i orielau ac amgueddfeydd trwy wledydd Prydain a’r Cyfandir; yn ddiweddar mae’r rhain wedi cynnwys Paris, Amsterdam, Barcelona, Madrid, Fenis ac Efrog Newydd. Mae grantiau teithio ar gael i brosiectau arbennig. (Codir ffioedd ychwanegol am deithiau maes.)
Swyddi
Mae gan yr Ysgol enw ardderchog am lwyddiant ei graddedigion wrth gael swyddi. Aeth nifer o’n myfyrwyr yn eu blaen i ddilyn gyrfa yn dysgu a darlithio, mewn amgueddfeydd, orielau celf, llyfrgelloedd a gweinyddiaeth y celfyddydau, yn ddylunwyr, yn ymchwilwyr lluniau, yn swyddogion cadwraeth a therapyddion celf, heblaw mynd yn arlunwyr proffesiynol, ffotograffwyr ac yn wneuthurwyr printiadau.
Gofynion Mynediad
Rydym yn recriwtio trwy UCAS yn syth o’r ysgol, a thrwy gyrsiau sylfaen a mynediad. Gall ymgeiswyr wneud cais trwy Ffordd A a/neu Ffordd B, ar ôl lefel A, a thrwy gwrs Sylfaen. Mae gan ymgeiswyr chwe dewis o sefydliad neu gwrs, a gellir buddsoddi hyd at bedwar dewis yn unig yn Ffordd B. Ffordd A yw’r opsiwn cynharaf a’r mwyaf poblogaidd i gael mynediad ar ôl lefel A, ac ar gyfer astudio cyrsiau anrhydedd cyfun ynghyd â phwnc arall. Llwybr hwyrach yw Ffordd B, a’r mwyaf poblogaidd ymhlith ymgeiswyr cyrsiau sylfaen.
Yn ogystal â gofynion y Brifysgol, rhaid i'r holl ymgeiswyr am gyrsiau sy'n cynnwys Celfyddyd Gain gyflwyno portffolio o waith celf i’w asesu. Yn y portffolio byddwn yn edrych am safon uchel o luniadu a phaentio ar sail arsylwi, dyfeisgarwch a gallu dadansoddol, ac am fyfyrwyr sy’n dangos yn eu gwaith chwilfrydedd am y byd o’u cwmpas. Nid yw’n rhaid ichi gwblhau cwrs sylfaen i gael mynediad ar y cwrs.