Hanes Celf


V350 - 3 blynedd

Mae hwn yn gwrs sy'n cyfuno Hanes Celf â Diwylliant Gweledol. Fe’i bwriedir i fyfyrwyr sydd heb fawr o gefndir yn y pynciau hyn cyn eu blwyddyn gyntaf yn ogystal â’r rhai sydd â llawer mwy o brofiad. Bydd modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn astudio rhai materion pwysig cysylltiedig â hanes celf o safbwynt amryw ragdybiaethau o ran methodoleg, beirniadaeth, a damcaniaethau. Mae’n defnyddio llawer o ddulliau a thechnolegau dysgu, addysgu ac asesu. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn llunio eu cwricwlwm eu hunain o blith portffolio eang o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol sy’n cynnwys: celf a chymdeithas, celf gyfoes, hanes celf graffig, hanes ffotograffiaeth, celf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Darddulliaeth a Baroc, a’r Dadeni.

Celf gyda bynciau eraill

Mae Aberystwyth yn cynnig y cyfle i gyfuno Celf, Hanes Celf neu Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel gydag amrywiaeth o bynciau eraill ac mewn gwahanol gyfuniadau: unai fel graddau Anrhydedd Cyfun wedi’i rhannu 50-50 rhwng dau bwnc, neu fel graddau Prif Bwnc/Is-bwnc. Cliciwch yma

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol