Celfyddyd Gain
W100 - 3 blynedd
dull A
Nod y cwrs Celfyddyd Gain yw rhoi addysg sy’n seiliedig ar y profiad o gael hyfforddiant proffesiynol mewn celf ac, yn unol â’r arbenigedd pwnc sydd ar gael, ceisir datblygu gallu creadigol y myfyrwyr eu hunain. Y mae’n gynllun tair blynedd sy’n dechrau yn y flwyddyn gyntaf gyda phrosiectau a dysgu mewn grwpiau dan gyfarwyddyd. Yn yr ail flwyddyn ceir grwpiau bychain arbenigol a fydd yn gwneud prosiectau grwp ac unigol. Yn y drydedd flwyddyn, ceir prosiectau gwreiddiol gan y myfyrwyr a arolygir trwy diwtorialau un-i-un.
Mae gan yr Ysgol gyfleusterau gwych ar gyfer astudio arlunio, y celfyddydau graffig, a ffotograffiaeth. Mae modiwlau Celfyddyd Gain yn rhoi cyfle i arbenigo ar ôl y flwyddyn gyntaf neu i gymryd gwahanol gyfuniadau o bynciau er mwyn ymestyn yr addysg weledol. O ddechrau’r ail flwyddyn ymlaen cynigir gwaith stiwdio yn un neu ragor o’r canlynol: arlunio, gwneud printiau, ffotograffiaeth, a darlunio llyfrau. Mae gan yr Ysgol gyfleusterau stiwdio ar gyfer arlunio a gwneud printiadau mewn intaglio, lithograffeg, printio cerfweddol a phrinto ar sgrîn, argraffyddiaeth, ffotograffiaeth ddu a gwyn a lliw, graffeg cyfrifiadur, a’r mwyafrif helaeth o ffurfiau reprograffeg. Gwneir y gwaith dysgu trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, prosiectau grwp ac unigol,
a gwersi tiwtorial.
Celf gyda bynciau eraill
Mae Aberystwyth yn cynnig y cyfle i gyfuno Celf, Hanes Celf neu Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel gydag amrywiaeth o bynciau eraill yn graddau Anrhydedd Cyfun wedi’u rhannu 50-50 rhwng dau bwnc. Cliciwch yma i weld y cyfuniadau posib.
Alex Dudbridge
BA Fine Art with Art History
Stourbridge, West Midlands