Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel
BA P131 - 3 blynedd
Mae hwn yn gynllun gradd BA unigryw trwy wledydd Prydain. Mae’n rhoi cyflwyniad hanesyddol, damcaniaethol ac ymarferol i amgueddfeydd ac orielau, casglu a dehongli diwylliant materol a churadiaeth casgliadau, ar y cyd ag astudio Hanes Celf. Mae’r cynllun yn defnyddio adnoddau’r Ysgol Gelf ei hun, sef Amgueddfa Gofrestredig a chasgliad o orielau celf gyfoes, ynghyd â chasgliadau helaeth o gelfyddyd gain ac addurniadol. Lluniwyd y cwricwlwm i baratoi myfyrwyr i allu ymaddasu a meithrin amryw sgiliau wrth i amgueddfeydd yn yr unfed ganrif ar hugain ddefnyddio technoleg newydd a gweithredu ar newidiadau sylfaenol yn y modd y mae casgliadau’n cael eu harddangos, eu dehongli a’u rheoli.
Celf gyda bynciau eraill
Mae Aberystwyth yn cynnig y cyfle i gyfuno Celf, Hanes Celf neu Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel gydag amrywiaeth o bynciau eraill ac mewn gwahanol gyfuniadau: unai fel graddau Anrhydedd Cyfun wedi’i rhannu 50-50 rhwng dau bwnc, neu fel graddau Prif Bwnc/Is-bwnc. Cliciwch yma