Y Gwyddorau Biolegol

Mae Gwyddorau Biolegol yma yn Aberystwyth yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, AmAmgylcheddol a Gwledig. Mae hwn yn sefydliad uchel ei barch ac yn yr asesiad cenedlaethol diwethaf ar Ansawdd Dysgu cafodd ei ddyfamu'n Rhagorol. Yn yr adran, cewch y cyfle i fanteisio ar gyfuniad unigryw o adnoddau labordy o'r safon uchaf chynefinoedd naturiol cyfoetheg ac amrwyiol yr ardal.

Mae tri Pharc Cenedlaethol, pedair Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac Ardal Cadwraeth Arbennig oll o fewn cyrraedd i Aberystwyth. Mae’r cynefinoedd morol, dŵr croyw a thirol hyn yn adnoddau rhagorol i astudio ecoleg ac amgylchedd planhigion ac anifeiliaid. Mae gennym hefyd labordai yn llawn o’r offer diweddaraf, adnoddau cyfrifiadurol gwych a staff ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, felly mae’r Sefydliad yn lle delfrydol i astudio’r ystod eang o ddisgyblaethau a gysylltir â’r gwyddorau biolegol. Mae ein cysylltiadau clòs â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn creu cyfle cyffrous i gyfoethogi eich profiadau dysgu.

Cyfleoedd Arbennig

Rydyn ni’n cynnig nifer o gynlluniau a fydd yn eich galluogi i ennill profiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth. Gall profiad gwaith wella eich rhagolygon am swydd a rhoi mantais gystadleuol ichi sy’n werthfawr yng ngolwg cyflogwyr.

Mae Cynllun y Flwyddyn mewn Gwaith yn gyfle gwych i gael blwyddyn o brofiad gwaith â thâl rhwng ail a thrydedd flwyddyn eich cwrs. Mae cyfleoedd i’w cael yn y DU a thramor, ac aeth rhai o’n myfyrwyr mor bell ag Affrica, Awstralia a Seland Newydd. Dewis arall yw manteisio ar y bwrsariaethau sydd gennym i’w cynnig i’ch cefnogi’n ariannol wrth i chi gael profiad o waith ymchwil yn ystod yr haf yn gweithio ochr yn ochr â staff deinamig a brwdfrydig yn ein labordai.

Oherwydd y cysylltiadau sydd gennym â phrifysgolion mewn gwledydd eraill mae’n bosibl astudio rhan o’ch gradd dramor. Trwy gynllun Erasmus gallwch dreulio hyd at flwyddyn o’ch gradd yn astudio mewn prifysgol yn Ewrop, ac mae cynllun cyfnewid Prifysgol Aberystwyth/Gogledd America yn rhoi cyfle tebyg i fynd i’r Unol Daleithiau.

Gyrfaoedd

Yn ogystal â rhoi hyfforddiant arbenigol mewn meysydd biolegol penodol, bydd ein cynlluniau gradd yn eich arfogi ag addysg wyddonol gynhwysfawr a chyfres o sgiliau trosglwyddadwy y bydd arnoch eu hangen er mwyn canfod swydd yn y dyfodol. Rydym yn cydweithio’n agos â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol i sicrhau y bydd myfyrwyr yn cael y cymorth a’r cyngor gorau posibl wrth ddechrau ar eu gyrfa.

Mae ein graddedigion gwyddorau biolegol yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, a rhai hefyd yn dilyn cyrsiau hyfforddiant uwchraddedig (e.e. PhD, MSc, DiPAR). Mae ein graddedigion wedi datblygu gyrfaoedd cyffrous gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr gan gynnwys: Sŵ Caer, awdurdodau addysg, Asiantaeth yr Amgylchedd, ymgynghorwyr rheoli, y Gwasanaeth Gwyddor Fforensig a gwasanaethau ymgynghori gwyddor fforensig, mudiadau cadwraeth, cwmnïau fferyllol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y llywodraeth, Cymdeithas y Gyfraith, awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, canolfannau bywyd môr, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, labordai iechyd cyhoeddus, y diwydiant dŵr, Whalewatch, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, asiantaethau cynhyrchu rhaglenni dogfen ar fywyd gwyllt a’r Asiantaeth Labordai Milfeddygol.

Cewch eich annog i chwarae rhan lawn ym mywyd y brifysgol. Trwy fanteisio i’r eithaf ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau academaidd a galwedigaethol gallwch sicrhau y byddwch yn gallu cystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad gyflogaeth heriol sydd ohoni.

Gofynion Mynediad

Yr ydym yn derbyn ystod eang o gymwysterau yn ogystal â’r lefel A traddodiadol, gan gynnwys Diplomâu Cenedlaethol, Bagloriaethau ac ati. O ran y cymwysterau sy’n rhan o system bwyntiau UCAS ein cynnig arferol yw 280 pwynt, gan gynnwys o leiaf 180 o gymwysterau gwerth mwy na 3 uned (h.y. lefel A neu gymhwyster cyfatebol). Yn achos y rhan fwyaf o gynlluniau gofynnir yn benodol am radd C lefel A mewn Bioleg neu Bioleg Ddynol – nid yw Cemeg yn angenrheidiol. Serch hynny, yn achos Biocemeg neu Geneteg a Biocemeg gofynnir am radd C mewn Cemeg yn hytrach na Bioleg. Weithiau bydd ein cynnig yn is na 280, er enghraifft os oes cytundeb Compact, neu’n dilyn cyfweliad neu arholiad ysgoloriaeth llwyddiannus. Pan fo cais yn cynnwys cymwysterau nad ydynt eto yn rhan o system bwyntiau UCAS byddwn yn gwneud cynnig ar delerau gwahanol.

Cewch gynnwys pwyntiau o raddau AS ychwanegol, Sgiliau Allweddol (lefel 3), graddau cerddoriaeth (6–8), Astudiaethau Cyffredinol a’r Fagloriaeth Gymreig er mwyn cwrdd â’n gofynion o ran pwyntiau. Er enghraifft, gallech gael 280 pwynt drwy gael BBC mewn lefel A, neu CCDD, a gallai’r naill neu’r llall gynnwys Astudiaethau Cyffredinol. Byddem hefyd yn derbyn CCC lefel A ac C mewn AS ychwanegol, neu CCD lefel A ac C mewn AS a Sgil Allweddol lefel 3. Byddai llawer o gyfuniadau eraill o gymwysterau a graddau yn dderbyniol hefyd.

Os nad oes gennych gymwysterau digonol am le ar gwrs tair blynedd, gallech gael cynnig mynediad trwy’r cynllun Gwyddorau Bywyd (C990) sy’n cynnwys Blwyddyn Sylfaen.