Ymddygiad Anifeiliaid


C120 - 3 blynedd

Mae ymddygiad anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol yn ffynhonnell chwilfrydedd a rhyfeddod parhaus. Mae deall ymddygiad hefyd yn allweddol i wella lles anifeiliaid domestig, anifeiliaid fferm neu rai arbrofol. Gall gwybodaeth fanwl ynglŷn ag ymddygiad warchod rhywogaeth brin yn llwyddiannus neu reoli pla neu barasit yn effeithiol. Nod y cwrs yw rhoi hyfforddiant trylwyr o ran astudio ymddygiad anifeiliaid yn wyddonol drwy ddadansoddi ei achosiad, ei ddatblygiad, ei esblygiad a’i weithrediad. Mae’r cwrs hefyd yn rhoi cefndir ar gyfer deall sail fiolegol ymddygiad dynol.

Mae arfordir, bryniau a choetiroedd canolbarth Cymru yn lleoliad heb ei ail ar gyfer y cynllun gradd Ymddygiad Anifeiliaid. Mae’r amgylchedd yn cynnig sawl cyfle i wylio ymddygiad anifeiliaid gwyllt. O lan y môr efallai y cewch gipolwg ar ddolffiniaid a morloi, tra bod adar y môr ac adar rheibus yn gyffredin. Mae aber yr afon Dyfi gerllaw yn fan pwysig i adar mudol aeafu ac mae’n gartref i Warchodfa Natur RSPB. Mae gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol acwariwm da lle gallwch wylio ymddygiad pysgod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn agos. Mae’r tir amaeth cyfagos yn rhoi cyfle i chi astudio ymddygiad anifeiliaid dof mewn amrywiaeth o gynefinoedd, o borfeydd tir isel i weundiroedd ar dir uchel. Mae’r radd hon yn caniatáu i chi ddatblygu eich diddordebau ym maes ymddygiad mewn perthynas â chadwraeth a lles anifeiliaid. Mae’r rhain yn feysydd lle mae dealltwriaeth o egwyddorion ymddygiad anifeiliaid wedi datblygu’n fwyfwy pwysig.

Wedi cwblhau’r flwyddyn gyntaf, sy’n rhoi sail gadarn yn y gwyddorau biolegol, byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol. Bydd hyn yn gyfle i ymestyn eich astudiaethau o ymddygiad a lles anifeiliaid gwyllt a dof yn erbyn y cefndir biolegol angenrheidiol. Drwy’r modiwlau dewisol a phrosiect ymchwil y flwyddyn olaf gallwch ddatblygu eich diddordebau eich hun mewn ymddygiad anifeiliaid. Trwy weithio ar y prosiect byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a dadansoddol mewn maes ymchwil o’ch dewis chi, ac yn gwella eich gallu i wylio, disgrifio a dadansoddi ymddygiad anifeiliaid mewn dull gwyddonol a gwrthrychol.

Mae’r rhai sydd â gradd mewn Ymddygiad Anifeiliaid yn gymwys iawn i’w cyflogi mewn sefydliadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cadwraeth a lles anifeiliaid, yn ogystal â’r gyrfaoedd sydd wedi’u crybwyll eisoes yn ein cyflwyniad i’r gwyddorau biolegol. Mae dealltwriaeth o egwyddorion ymddygiad anifeiliaid yn werthfawr hefyd ym meysydd rheoli personél, hysbysebu a rheoli cyffredinol.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr cyrsiau’r Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: