Biocemeg
C700 - 3 blynedd
Please turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.
Mae llawer o’r datblygiadau ym maes meddygaeth, maetheg, fferylleg a geneteg yn ystod y degawdau diwethaf yn deillio o ddealltwriaeth o fioleg ar lefel folecwlaidd. Dyma faes y biocemegydd, sy’n ceisio disgrifio strwythur a swyddogaethau’r moleciwlau sy’n ffurfio celloedd a deall sut y maent yn rhyngweithio mewn prosesau byw. Mae’r technegau a ddatblygwyd ar gyfer astudiaethau biocemeg yn rhai pwerus dros ben, e.e. sbectrometreg màs, electrofforesis, cromatograffeg. Maent wedi chwyldroi astudiaethau ym maes meddygaeth a’r diwydiant fferyllol ac maent bellach yn sail i lawer o ymchwil ledled y gwyddorau biolegol. O ganlyniad mae biocemegwyr yn canfod gwaith yn y diwydiannau meddygol, fferyllol, amaethyddol a bwyd ac maent hefyd yn cael eu cyflogi mewn labordai ysbyty ac mewn labordai dadansoddi eraill.
Mae swyddogaeth ganolog biocemeg yn cael ei hadlewyrchu yn y cwrs gradd Biocemeg yma yn Aberystwyth. Mae’n cyflwyno’r pwnc o safbwynt bioleg gyfoes i raddau helaeth iawn ac yn cyflwyno materion ym maes bioleg gyfoes sy’n croesi ffiniau disgyblaethau unigol. O ganlyniad bydd gan ein graddedigion wybodaeth arbenigol mewn biocemeg mewn cyd-destun biolegol eang, yn ogystal â’r sgiliau gwyddonol cyffredinol a ddisgwylir gan rai sydd â gradd mewn gwyddoniaeth.
Bydd blwyddyn gyntaf eich gradd yn rhoi sylfeini cadarn i chi ar draws yr ystod o bynciau biolegol. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn arbenigo fwyfwy mewn biocemeg a phynciau perthnasol drwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol. Ar wahân i fiocemeg graidd bydd y modiwlau’n rhoi’r wybodaeth ategol angenrheidiol i chi mewn meysydd lle cafwyd datblygiadau yn ddiweddar, megis bioleg folecwlaidd, genomeg a biowybodaeth. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol mewn biocemeg ac mae hyn yn cael ei annog ymhellach yn eich prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf, lle cewch y cyfle i ddatblygu a dilyn diddordebau arbenigol yn eich pwnc. Mae cyfle i chi ymgymryd â’ch prosiect yn y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gerllaw.
I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.
Ar gael ynghyd â:
BScGeneteg - CC47