Bioleg
C100 - 3 blynedd
Gwybodaeth y Cynllun Astudio
Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:Bioleg
Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf mae datblygiadau technolegol a’n dealltwriaeth o systemau biolegol wedi chwyldroi maes bioleg i’r fath raddau nes ei fod yn cael mwy o effaith nag erioed ar ein bywyd bob dydd. Er enghraifft, mae datblygiadau o ran deall sut mae celloedd yn gweithio wedi arwain at ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer clefydau – a rhai ohonynt yn driniaethau dadleuol. Ceir sôn yn aml bellach am osod genomau cyfan mewn trefn ac mae technegau’n cael eu datblygu i ddadansoddi gweithrediad genynnau. Mae symiau mawr o ddata’n cael eu cynhyrchu yn y maes biolegol hwn ac mae’r gallu i brosesu a dadansoddi’r rhain â chyfrifiadur yn agwedd allweddol arall ar y gwyddorau biolegol. Mewn amaeth mae llawer o ffyrdd newydd o reoli heintiau a gwella cynnyrch yn cael eu profi. Ar ben hynny, mae effaith dyn ar yr amgylchedd yn creu sawl her newydd y mae angen eu deall. Daw’r holl feysydd cyffrous hyn ynghyd yn nisgyblaeth bioleg. Mae’r rhain hefyd yn feysydd ymchwil arbenigol yn Aberystwyth, felly byddwch yn cael eich dysgu gan rai o’r prif arweinwyr yn y maes.
Cynnwys a Strwythur
Anelir cynllun gradd bioleg Aberystwyth at fyfyrwyr sydd eisiau cadw diddordeb eang ledled yr agweddau molecwlaidd, cellog a ffisiolegol ar organebau byw a’r modd y maent yn rhyngweithio â’r amgylchedd. Os mynnwch, gallwch arbenigo mewn agweddau penodol ar fioleg yn eich blwyddyn olaf.
Blwyddyn 1
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o amrywiaeth y disgyblaethau biolegol mewn modiwlau sy’n trafod strwythur a gweithrediad planhigion, anifeiliaid a microbau ar lefel organebau, celloedd a moleciwlau (genetig a biocemegol). Byddwch hefyd yn cael eich hyfforddi mewn sgiliau ymchwil a chyfathrebu.
Blwyddyn 2 a 3
Un o brif amcanion yr ail flwyddyn yw cynnal cydbwysedd y meysydd yr ydych yn eu hastudio, a byddwch yn dewis modiwlau o blith amrywiaeth sy’n trafod prif feysydd bioleg, gan gynnwys bioleg celloedd, imiwnoleg, geneteg, microbioleg, ymddygiad anifeiliaid a ffisioleg planhigion. Ymhlith y pynciau poblogaidd mae bioleg canser a bioleg gyfrifiadol (‘biowybodeg’). Yn y drydedd flwyddyn gallwch ddal ati i astudio ar raddfa eang neu gallwch ddewis datblygu eich diddordeb mewn maes biolegol arbennig drwy fodiwlau dewisol a phrosiect y flwyddyn olaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn bioleg maes gallwch gymryd rhan mewn cyrsiau maes ecoleg planhigion a thir sy’n cael eu cynnal mewn lleoliad trawiadol megis palmentydd calch unigryw’r Burren yn Iwerddon. Gall prosiect ymchwil y flwyddyn olaf, sy’n rhoi’r cyfle i chi weithio o fewn un o grwpiau ymchwil y Sefydliad, fod wedi’i seilio yn y labordy, ar gyfrifiadur, yn y maes neu ar lenyddiaeth. Bydd eich prosiect yn eich galluogi i ddatblygu ymhellach eich sgiliau ymarferol, cynllunio a dadansoddi mewn maes o’ch dewis chi.
Yn ogystal â darlithoedd a seminarau, bydd amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, megis dosbarthiadau ymarferol yn y labordy, gwaith maes, prosiectau ac aseiniadau yn eich helpu i integreiddio gwyddoniaeth ac arfer. Asesir trwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig.
Gyrfaoedd
Mae gan raddedigion Bioleg wybodaeth a sgiliau eang a thrylwyr ac o ganlyniad gallant ddewis o blith ystod ehangach o yrfaoedd. Er enghraifft, yn ddiweddar mae graddedigion wedi mynd ymlaen i swyddi gydag awdurdodau addysg, Asiantaeth yr Amgylchedd, mudiadau cadwraeth, cyrff fferyllol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, canolfannau bywyd môr, labordai iechyd y cyhoedd a’r diwydiant dŵr i roi rhai enghreifftiau yn unig. Mae’r cynllun hwn hefyd yn arwain yn aml at ymchwil uwchraddedig ar lefel MSc a PhD.