Ecoleg

BSc - 3 blynedd (C180)

Ecoleg

Mae Ecoleg yn astudio’r modd y mae amrywiaeth eang o organeddau yn rhyngweithio â’i gilydd a’r amgylchedd. Gwybodaeth o’r fath sy’n sail i’n dealltwriaeth o’r modd y mae bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ymateb i fygythiadau i’r amgylchedd heddiw ac yn y dyfodol, gan gynnwys newid hinsawdd a dinistrio cynefinoedd. Mae’n cynnig hefyd olwg ar y modd y mae’r byd naturiol yn gweithredu. Wrth galon astudiaeth o’r fath y mae datblygiad arweinlyfr o sgiliau arolygu maes yn ein labordy naturiol ein hunain yn Aberystwyth.

Cynnwys a Strwythur

Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng organeddau a’r amgylchedd. Astudir hyn drwy gyfuno dysgu yn y maes, mewn labordai a darlithoedd. Mae gennym adnoddau ymchwil a dysgu rhagorol yn Aberystwyth ond bydd myfyrwyr Ecoleg hefyd yn gallu manteisio’n sylweddol ar ein lleoliad. Mae amrywiaeth eang o gynefinoedd ac ecosystemau lled-naturiol gerllaw, gan gynnwys arfordir Bae Ceredigion, amgylcheddau dŵr croyw, rhostiroedd a thiroedd alpaidd. Rydym o fewn cyrraedd hwylus i sawl gwarchodfa Natur gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. Mae gennym hefyd gysylltiadau sydd wedi’u hen sefydlu ag Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar a nifer o ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a choedwigoedd.

Blwyddyn 1
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs, byddwch yn dilyn modiwlau craidd a dewisol a fydd yn rhoi ichi wybodaeth a dealltwriaeth o ecoleg y gallwch adeiladu arnynt yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn. Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fioleg gyffredinol a’r amgylchedd ymhellach. Penllanw hyn fydd cwrs maes bioamrywiaeth a fydd yn rhoi dysgu damcaniaethol ar waith.

Blynyddoedd 2 a 3
Ym mlwyddyn dau a thri, nod y cwrs yw cynnig ichi graidd ac ehangder gwybodaeth fanwl mewn Ecoleg. Trwy gyfrwng modiwlau dewisol, gallwch sicrhau mwy o wybodaeth arbenigol drwy ganolbwyntio ar:

a) yr elfennau mwy biolegol,
b) sicrhau gwybodaeth am y maes cymhwysol (drwy gadwraeth),neu
c) dysgu am systemau morol a dŵr croyw.

Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyrsiau maes ecoleg y dŵr a’r tir. Mae’r astudiaethau maes ecoleg uwch yn digwydd mewn lleoliadau sy’n cynnwys arctig Sweden lle daw myfyrwyr wyneb yn wyneb ag ecosystemau a bywyd gwyllt dilychwin gan fwynhau haul hanner nos. Mae’r cwrs gradd hwn hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd ichi ddatblygu eich diddordebau eich hunain drwy eich dewis o fodiwlau astudio ac amrywiol brosiectau ymchwil. Trwy gyfrwng y traethawd ymchwil a’r modiwlau cyfathrebu ymchwil yn y drydedd flwyddyn yn arbennig, cewch ymchwilio pynciau yn fwy manwl gan gynnwys bioleg bywyd gwyllt, hanes naturiol, effeithiau newid hinsawdd, dinistrio ac adfer cynefinoedd, bioamrywiaeth planhigion ac anifeiliaid.

Dysgu ac Addysgu
Mae’r cwrs hwn wedi’i strwythuro o amgylch cymysgedd o ddosbarthiadau ymarferol, teithiau maes, dosbarthiadau tiwtorial grwpiau bychain, a darlithoedd rhyngweithiol. Bydd yr amrywiaeth eang o weithgareddau o gymorth ichi integreiddio gwyddoniaeth ac arfer sy’n berthnasol i brosesau amgylcheddol. Asesir trwy gyfuniad o waith cwrs, gan gynnwys adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau, traethodau ac arholiadau ysgrifenedig.

Gyrfa
Mae galw mawr am raddedigion Ecoleg gan gyflogwyr mewn amryw feysydd. O ennill gradd, byddech yn gymwys i chwilio am swyddi a gwaith ymchwil ym meysydd cadwraeth ac amddiffyn yr amgylchedd. Mae ehangder y cwrs hefyd yn sail gadarn ar gyfer gyrfa ym myd dysgu mewn ysgolion a cholegau neu ganolfannau maes. Mae cyfleoedd gyrfa eraill yn cynnwys gweithio yn labordai’r llywodraeth neu labordai masnachol, llywodraeth leol neu genedlaethol, ymgynghoriaeth amgylcheddol, gwasanaethau cyhoeddi a chyhoeddus. Mae ein graddedigion mewn lle da i ymgeisio am swyddi gyda DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Natural England, Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS), y Comisiwn Coedwigaeth, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Grid Cenedlaethol a Dŵr Severn Trent. Bydd rhai graddedigion ecoleg yn trosglwyddo i yrfaoedd eraill yn cynnwys busnes, masnach a’r gyfraith yn dilyn hyfforddiant mewn-swydd neu broffesiynol pellach. Bydd myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda ar gyfer hyfforddiant proffesiynol uwchraddedig pellach ac mae’r Sefydliad yn cynnig y posibilrwydd i symud ymlaen i astudio ar gyfer MSc a PhD Ecoleg.



Set Gwybodaeth Allweddol