Biowyddorau Amgylcheddol

BSc - 3 blynedd (C151)

Biowyddorau Amgylcheddol

Mae’r Biowyddorau Amgylcheddol yn ystyried sut y mae gweithgaredd dyn yn effeithio ar yr amgylchedd, sut y mae’r ecosystemau yn ymateb i’r gweithgareddau hyn a sut gallwn ninnau ymyrryd i leihau canlyniadau andwyol. Nod y cwrs yw datblygu sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol yn ogystal â mynd i’r afael â rhai o’r prif heriau byd-eang sy’n wynebu dyn.

Cynnwys a Strwythur
Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng systemau biotig (gan gynnwys dyn) a’r amgylchedd ffisegol ac yn gwneud y mwyaf o’r amrywiaeth eang o gynefinoedd a reolir a lled-naturiol sydd gerllaw er mwyn darparu profiad o’r rhyngweithiau hyn yn y maes. Mae disgrifio a dadansoddi effeithiau dynol ar yr amgylchedd ac ymateb yr ecosystem i’r effeithiau hyn yn thema sy’n dychwelyd dro ar ôl tro. Mae ehangder a hyblygrwydd y ddisgyblaeth yn cynnwys safbwyntiau’r gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol, gan roi’r cyfle ichi feithrin sgiliau a phrofiad yn y meysydd hyn.

Mae ein lleoliad yn ddelfrydol i’r astudiaethau hyn, gan fod amrywiaeth eang o gynefinoedd tir, môr a dŵr croyw gerllaw. Mae o fewn cyrraedd hwylus i nifer o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ogystal â Pharciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Mae’r rhain oll yn cynnig digonedd o leoliadau diddorol lle gallwch astudio amrywiaeth helaeth o gynefinoedd a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ynddynt. Mae’r cydweithio agos â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, ynghyd â’n casgliad o dai gwydr trofannol a thymherus a godwyd yn ddiweddar, yn darparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer dysgu ac ymchwilio yn y gwyddorau amgylcheddol. Mae arbenigwyr o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cyfrannu i’r cynllun gradd hwn ar agweddau perthnasol o ddaearyddiaeth ffisegol.

Blwyddyn 1

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cewch sylfaen eang o sgiliau a gwybodaeth fydd yn angenrheidiol ar gyfer astudiaethau uwch pellach, gan gyfuno agweddau ar fioleg anifeiliaid, microbau a phlanhigion â phynciau ecolegol a daearyddol ehangach. Rhoddir hefyd hyfforddiant mewn ymchwil a chyfathrebu.

Blynyddoedd 2 a 3

Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau a fydd yn datblygu eich dealltwriaeth sylfaenol o’r ddisgyblaeth yn ogystal â datblygu diddordebau arbenigol drwy eich dewis o fodiwlau dewisol. Mae modiwlau craidd yn trafod pynciau megis Newid Hinsawdd, bygythiadau i’r ecosystemau a bioamrywiaeth naturiol, economeg a pholisi amgylcheddol a chyfraith amgylcheddol. Gan ddatblygu’r profiad gwaith maes a gafwyd ym mlynyddoedd 1 a 2, gellir ennill mwy o brofiad maes ecoleg y tir ym mlwyddyn 3, gan gynnwys gweithio yn Arctig Sweden. Cewch ddewis i astudio gwahanol ecosystemau tir neu ddŵr neu feysydd dethol o ddaearyddiaeth ffisegol. Mae’r cynllun gradd yn cynnig cyfleoedd pellach ichi ddatblygu eich diddordebau eich hunain drwy gyfrwng prosiect ymchwil yn y drydedd flwyddyn. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cyrsiau maes lleol a thramor.

Dysgu ac Addysgu
Mae’r cwrs hwn wedi’i strwythuro o amgylch cymysgedd o ddosbarthiadau ymarferol, teithiau maes, dosbarthiadau tiwtorial grwpiau bychain, a darlithoedd rhyngweithiol. Bydd yr amrywiaeth eang o weithgareddau o gymorth ichi integreiddio gwyddoniaeth ac arfer sy’n berthnasol i brosesau amgylcheddol. Asesir trwy gyfuniad o waith cwrs, gan gynnwys adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau, traethodau ac arholiadau ysgrifenedig.

Gyrfa

Mae nifer o raddedigion y gwyddorau amgylcheddol yn Aberystwyth yn dewis gyrfa ym maes cadwraeth neu reoli’r amgylchedd, gan roi gwybodaeth a sgiliau’r radd ar waith yn uniongyrchol. Bydd eraill yn symud i yrfa ym maes cyfrifeg, bancio, mân-werthu, trafnidiaeth, dysgu, llywodraeth leol a rheoli. Mae canran sylweddol yn parhau yn addysg uwch, naill ai drwy ymgymryd â gwaith ymchwil amser llawn ar gyfer gradd PhD neu MSc, neu gymwysterau galwedigaethol a phroffesiynol.



Set Gwybodaeth Allweddol