Geneteg a Biocemeg


CC47 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)

Does dim ond rhaid i chi godi papur newydd neu droi’r teledu ymlaen i werthfawrogi’r effaith y mae geneteg a biocemeg yn eu cael ar gymdeithas. Mae prosiect y genom dynol, er enghraifft, wedi creu trysorfa o wybodaeth fiolegol y gallwn ei defnyddio i astudio gweithrediad genynnau a’u cynnyrch. Mae hwn yn adnodd gwirioneddol werthfawr sydd â photensial diddiwedd bron o safbwynt deall a thrin clefydau genetig a datblygu cyffuriau fferyllol newydd. Mae gan y broses o ddatblygu a defnyddio organebau sydd wedi eu haddasu’n enetig y potensial i fod o fudd i’r ddynoliaeth hefyd, ond ymhlyg yn hynny mae’r cyfrifoldeb i ystyried yn ofalus a ddylid eu rhyddhau i’r amgylchedd. Mae ein dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad moleciwlau sy’n weithredol yn fiocemegol wedi agor meysydd cwbl newydd o wyddoniaeth bur a chymhwysol, gan roi i ni ddealltwriaeth newydd o ffurf a gweithrediad organebau byw mor wahanol â microbau a dyn.

Mae’r rhyngweithio rhwng geneteg a biocemeg yn faes gwyddonol cyffrous sy’n tyfu’n gyflym, a hyn sydd wedi arwain at y datblygiadau technolegol y cyfeiriwyd atynt uchod ynghyd â nifer o rai eraill. Mae’r cwrs yn adlewyrchu deinameg y rhyngweithio hwn, a thrwy hyfforddiant trylwyr mewn geneteg a biocemeg mae’n rhoi’r myfyriwr mewn sefyllfa i ymarfer y gwyddorau hyn yn fedrus. Mae’r cynllun gradd yn cynnig llwybr i waith ym meysydd twf biomeddygaeth, gwyddoniaeth fforensig, proffilio DNA (pobl, anifeiliaid, planhigion), sytogeneteg glinigol a chynghori genetig, biotechnoleg a chynhyrchu bwyd ac agweddau ar fioamrywiaeth a gwarchod adnoddau genetig a rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae hefyd yn paratoi myfyrwyr am yrfaoedd sydd wedi eu crybwyll eisoes yn y cyflwyniad i’r gwyddorau biolegol.

Ar ôl cwblhau eich blwyddyn gyntaf, pan fyddwch yn datblygu sylfaen gadarn yn y gwyddorau biolegol, byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol yn ymdrin â meysydd megis geneteg ddynol, mynegiad genynnol, biocemeg feddygol a thrin data mewn biocemeg. Drwy’r modiwlau dewisol, a’ch prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf, gallwch ddatblygu eich diddordebau eich hun mewn geneteg a biocemeg. Mae’r prosiect yn enwedig yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau arbrofol mewn maes ymchwil geneteg neu fiocemeg o’ch dewis chi.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan yn www.aber.ac.uk/biology/cymraeg.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol