Geneteg
C400 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)
Ceir adroddiadau yn y cyfryngau yn ddyddiol bron am ddatblygiad newydd neu ddadleuol yn ymwneud â geneteg. Mae’r rhain yn trafod organebau wedi eu haddasu’n enetig, y prosiect genom dynol, proffilio DNA fforensig ac ynysu a nodweddu genynnau sy’n ymwneud â chlefydau dynol. Mae astudio geneteg wedi symud ymlaen o ddarganfyddiad arloesol Mendel, sef bod deunydd genetig yn cael ei etifeddu, i ddadansoddi blaengar ar ddilyniannau genomau cyflawn nifer o organebau, gan gynnwys pobl.
Yn Aberystwyth rydym o’r farn y dylai ein graddedigion geneteg allu traethu’n wybodus ar bynciau amserol sy’n ymwneud â geneteg. I gyrraedd y nod hwn, mae’r cwrs wedi cael ei ddatblygu’n ofalus i gynnwys sylfeini etifeddiaeth a ffiniau geneteg gyfoes, megis genomeg a biowybodeg. Gan fod genynnau yn angenrheidiol i bob organeb fyw mae geneteg yn cyffwrdd â nifer o feysydd; drwy ddethol modiwlau dewisol yn ofalus gallwch arbenigo mewn pynciau mor wahanol â chadwraeth a biotechnoleg. Bydd ein gradd geneteg yn rhoi’r sgiliau i chi ddilyn nifer o yrfaoedd ym maes gofal iechyd, mewn diwydiant ac mewn prifysgolion, gan gynnwys biotechnoleg ac ymchwil fforensig, geneteg glinigol, cynghori genetig a geneteg poblogaeth amgylcheddol.
Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf, pan fyddwch yn datblygu sylfeini cadarn yn y gwyddorau biolegol, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol. Mae’r rhain yn cwmpasu meysydd megis mynegiad genynnol, geneteg ddatblygiadol, geneteg ddynol, genomeg, biowybodeg a maes pwysig materion moesegol sy’n ymwneud â geneteg.
Drwy’r modiwlau hyn, a’ch prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddatblygu eich diddordeb eich hun mewn geneteg. Mae’r prosiect yn enwedig yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau arbrofol mewn maes ymchwil geneteg o’ch dewis chi.
I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan yn www.aber.ac.uk/biology/cymraeg.