Gwyddorau Bywyd
C990 - 4 blynedd
Diben y cwrs hwn yw ehangu mynediad i gynlluniau gradd cyffrous, cynhwysfawr a blaengar Sefydliad y Gwyddorau Biolegol. Mae hefyd yn rhoi mynediad i’r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Cynlluniwyd y flwyddyn gyntaf yn benodol i fyfyrwyr sydd heb gefndir digonol ar gyfer y cyrsiau hyn, naill ai mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol neu mewn bioleg yn benodol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen hon yn llwyddiannus gallwch ddewis dilyn unrhyw un o gynlluniau tair blynedd y Sefydliad, sy’n amrywio o agweddaumolecwlaidd i agweddau amgylcheddol bioleg.
Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen - trwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, seminarau a sesiynau tiwtorial - bydd y rhaglen yn cwmpasu bioleg i safon lefel A, yn ogystal ag agweddau ar fathemateg a chemeg sy’n berthnasol i fiolegwyr, a sgiliau cyfathrebu. Mae athrawon y cwrs yn brofiadol iawn o ran datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau astudio craidd ar gyfer gradd yn y gwyddorau biolegol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf aeth tua 20 ar gyfartaledd i’r Flwyddyn Sylfaen, gan greu grŵp dysgu bychan lle gellir cael sylw unigol gan diwtoriaid. Caiff llwyddiant y dull hwn ei adlewyrchu gan y ffaith bod myfyrwyr Gwyddorau Bywyd yn gallu ymdopi’n rhwydd â’r tair blynedd sy’n dilyn, a’u bod i’w gweld yn rheolaidd ynrhengoedd y graddedigion sy’n ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Mae myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol iawn yn dewis y cwrs Gwyddorau Bywyd. Efallai eich bod wedi gweithio ers gadael yr ysgol yn 16 oed neu efallai eich bod wedi dechrau ar astudiaethau lefel A ac AS ond wedi methu â chyflawni eich potensial. Efallai eich bod wedi ennill cymwysterau ôl-16 mewn pynciau nad ydynt yn rhai gwyddonol ond eich bod eisiau astudio gwyddoniaeth ar lefel Addysg Uwch. Efallai eich bod yn fyfyriwr hŷn sydd â rhai cymwysterau sylfaenol yn y gwyddorau ond â phrofiad ymarferol sy’n berthnasol i fioleg, ecoleg neu gadwraeth, neu’n wir i wyddoniaeth yn gyffredinol. Neu efallai eich bod yn fyfyriwr tramor â rhywfaint o gefndir mewn gwyddoniaeth ond eich bod angen datblygu’r wybodaeth hon at lefel sy’n briodol i gael mynediad i raglen israddedig tair blynedd.
Mae gofynion mynediad y cwrs yn hyblyg. Fel arfer bydd gennych radd C TGAU, neu’r hyn sy’n cyfateb, mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg. Y tu hwnt i hynny, dylech fod â diddordeb byw mewn bioleg gyfoes, agwedd realistig tuag at y dasg sydd o’ch blaen a chymhelliad cryf i lwyddo yn eich astudiaethau. Anogwn chi i gysylltu â ni i drafod eich cefndir ac i weld a yw’r cwrs yn debygol o fod yn addas i’ch dibenion. Os penderfynwch wneud cais byddwn yn eich gwahodd i gyfarfod â ni ac i drafod natur y cwrs a’ch disgwyliadau ohono.
I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.