Bioleg y Môr a Dŵr Croyw


C164 - 3 blynedd

Bu cynefinoedd dŵr yn peri chwilfrydedd i fiolegwyr erioed. Does dim byd tebyg i harddwch ac amrywiaeth yr organebau sydd yn y môr, mewn dŵr croyw a dŵr lled hallt, ac maent yn rhoi her i ecolegwyr, ffisiolegwyr a dosbarthwyr yn eu hymdrechion i ddeall yr ecosystemau cymhleth hyn. Defnyddir cynefinoedd dŵr yn helaeth gan bysgodfeydd masnachol, ac mae ein dyfroedd arfordirol, ein llynnoedd a’n hafonydd yn werthfawr iawn o ran adloniant a chadwraeth.

Ar lannau Bae Ceredigion, mewn ardal wledig yn gyforiog o afonydd, nentydd a llynnoedd, mae Aberystwyth mewn man delfrydol i astudio bioleg y môr a dŵr croyw. Mae’r cynefinoedd yn cynnwys nentydd mynydd sy’n llawn eog a brithyll, aberoedd o bwysigrwydd rhyngwladol a bae sy’n gartref i un o ddwy boblogaeth breswyl dolffiniaid trwynfawr y DU.

Mae’r rhaglen radd hon yn cynnig dull cyfannol o astudio bioleg y môr a dŵr croyw. Ei nod yw datblygu eich dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau bioleg dŵr a’ch goleuo am gymhlethdodau rheoli cynefinoedd dŵr. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau craidd ym mlynyddoedd 2 a 3 sy’n cynnwys ecoleg, ffisioleg a geneteg organebau môr a dŵr croyw. Mae modiwlau craidd sy’n rhoi’r cyfle i chi astudio agweddau pur a chymhwysol bioleg dŵr yn cael eu hategu gan fodiwlau dewisol sy’n rhoi cyfle i ddatblygu eich diddordebau eich hun. Bydd dosbarthiadau ymarferol a gwaith maes yn bwysig gydol y cwrs, a manteisir yn llawn ar leoliad arbennig o ffafriol y Sefydliad i feithrin sgiliau maes. Mae cyrsiau maes preswyl yng Nghymru (Bioleg y Môr) a Loch Lomond (Bioleg Dŵr Croyw) yn elfennau craidd o’r rhaglen.

Mae ymchwil a gwaith prosiect unigol yn elfennau allweddol yn y flwyddyn olaf. Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil mewn grŵp sy’n rhoi’r cyfle i chi astudio’n fanwl agweddau ar fioleg y dyfnfor, er enghraifft, neu effaith newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd dŵr. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol mewn maes o’ch dewis sy’n rhoi cyfle pellach i chi ddatblygu sgiliau maes a labordy.

Mae gan raddedigion Bioleg y Môr a Dŵr Croyw amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa fel y nodwyd eisoes yn y cyflwyniad i’r gwyddorau biolegol. Maent hefyd yn cael gwaith gydag amrywiaeth o gyrff statudol, gan gynnwys pysgodfeydd ac asiantaethau cadwraeth, a chyda’r nifer cynyddol o ganolfannau bywyd môr ac acwaria.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: