Microbioleg
C500 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)
Er na allwn eu gweld, rydym wedi ein hamgylchynu yn barhaus, ein meddiannu hyd yn oed, gan feicro-organebau megis bacteria, ffyngau a firysau, a Microbioleg yw’r wyddor sy’n eu hastudio. Gwyddom am eu swyddogaeth yng nghlefydau heintus pobl, anifeiliaid eraill a phlanhigion (e.e. gwenwyn bwyd E. coli, clefyd y llengfilwyr, y ddarfodedigaeth) ac yn y broses o gynhyrchu gwrthfiotigau. Maent yn cyfrannu at gynnal ffrwythlondeb pridd (e.e. bacteria mewn cylchynu nitrogen) ac fe’u defnyddir hefyd ym maes bioadfer. Mae eu gweithgaredd yn dirywio bwyd a deunyddiau eraill a chânt eu defnyddio yn y diwydiannau bragu, bwyd a biotechnoleg. O ganlyniad, maent ymhlith yr organebau mwyaf amlbwrpas y gwyddom amdanynt. Nid yn unig y maent yn effeithio’n uniongyrchol ar les pobl drwy eu gweithgaredd llesol a niweidiol, ond yn aml hwy hefyd yw’r gwrthrychau arbrofol gorau o ran astudio ffenomena biolegol sylfaenol sy’n gyffredin i bob organeb.
Mae microbioleg yn gorgyffwrdd â nifer o feysydd eraill bioleg megis geneteg, sŵoleg, bioleg y môr a dŵr croyw, a bioleg folecwlaidd. O ganlyniad, mae microbiolegwyr yn gweithio mewn nifer o wahanol leoedd ac nid yn unig y mannau mwyaf amlwg megis labordai ysbytai. Nod y cwrs Microbioleg yn Aberystwyth yw sicrhau bod ein myfyrwyr yn deall cysyniadau ac egwyddorion allweddol microbioleg gyfoes a sut y cânt eu defnyddio ym maes meddygaeth a diwydiant (gan gynnwys y diwydiannau bwyd a fferylleg), mewn labordai diagnostig ac yn y maes (gan gynnwys monitro’r amgylchedd). I gyflawni hyn, yr ydym yn cynnig cynllun gradd sy’n ymwneud ag agweddau molecwlaidd, genetig a ffisiolegol microbau ynghyd ag agweddau ecolegol ac amgylcheddol ar eu gweithgaredd.
Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y radd, pan fyddwch yn datblygu sylfeini cadarn yn y gwyddorau biolegol, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol sy’n ymdrin â meysydd megis bacterioleg, microbau a haint, microbioleg gymhwysol, ffisioleg ficrobaidd, geneteg ficrobaidd a firoleg. Drwy’r modiwlau dewisol a’ch prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf gallwch ddatblygu eich diddordeb eich hun mewn microbioleg. Mae’r prosiect yn rhoi cyfle hefyd i chi ddatblygu ymhellach eich sgiliau ymarferol a chynllunio mewn maes ymchwil microbiolegol o’ch dewis chi.
I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.
Ar gael ynghyd â:
BSc
Sŵoleg - CC35