Bioleg Planhigion


C200 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)

Mae planhigion yn sylfaen hanfodol i fywyd ar y ddaear, y bwyd rydym yn ei fwyta a harddwch yr amgylchedd naturiol. Trwy ddilyn gradd Bioleg Planhigion yn Aberystwyth byddwch yn astudio pob agwedd ar fywyd planhigion, o’r molecwlaidd i’r ecolegol. Mae’n cwmpasu materion sydd o bwysigrwydd bydeang, megis goblygiadau addasu cnydau yn enynnol a’r newid yn yr hinsawdd.

Mae canolbarth Cymru yn ardal ardderchog ar gyfer y cynllun gradd hwn oherwydd yr amrywiaeth helaeth o gynefinoedd sydd i’w cael o fewn cyrraedd hwylus, gan gynnwys coetiroedd derw, twyni tywod arfordirol, morfeydd heli, cyforgorsydd, llynnoedd dŵr croyw ac ucheldiroedd. Mae gan y Sefydliad gysylltiadau agos â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gerllaw. Mae ganddo hefyd adnoddau gwych, nifer o dai gwydr trofannol a thymherus, ystafelloedd tyfu planhigion a’i gasgliad botanegol ei hun. Gallwch fynd ar daith rithwir i weld y casgliad ar www.aber.ac.uk/biology/dept/botgardens.html

Ar ôl cwblhau eich blwyddyn gyntaf, sy’n cynnwys astudio strwythur a swyddogaeth planhigion o ran ffisioleg, ecoleg a dosbarthiad, byddwch yn astudio rhai modiwlau craidd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn ondgallwch deilwra eich cynllun gradd drwy eich modiwlau dewisol. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau maes lleol a theithiau i ogledd Sbaen a gorllewin Iwerddon, yn ogystal â modiwlau biotechnolegol a ffisiolegol.

Mae ymchwil a gwaith prosiect unigol yn elfennau allweddol ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol, ar agwedd o’ch dewis eich hun, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau maes neu labordy.

Mae gan ein graddedigion wybodaeth eang am ddull planhigion o dyfu a rhyngweithio ag organebau eraill ac â’r amgylchedd. Maent hefyd yn deall potensial bioleg folecwlaidd i ddatblygu bioleg planhigion a biotechnoleg yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn golygu y gallwch ddilyn gyrfa yn un o’r meysydd a grybwyllwyd eisoes yn y cyflwyniad i’r gwyddorau biolegol, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd gyrfa ym maes rheoli cadwraeth, yn sefydliadau ymchwil byd diwydiant neu mewn sefydliadau ymchwil a noddir gan y llywodraeth, ac yn y gwasanaeth sifil gwyddonol.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: